Neidio i'r prif gynnwy

Yn aros i ffwrdd o'ch cartref? Cofiwch bacio un eitem a allai achub eich bywyd

24 Gorffennaf 2024

 

Mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn cynghori y dylai pobl sy'n aros i ffwrdd o'u cartref bob amser bacio larwm carbon monocsid (CO).

Mae CO yn nwy di-liw, diarogl, a di-flas sy'n wenwynig i bobl ac anifeiliaid. Gall CO gael ei gynhyrchu gan unrhyw offer llosgi tanwydd sy'n ddiffygiol neu wedi'i defnyddio neu ei osod yn anghywir. Gall CO fod yn risg gartref neu wrth aros i ffwrdd. Gall gwenwyno CO ddigwydd yn unrhyw le, gan gynnwys mewn gwestai, pebyll, carafannau, cartrefi modur neu gyda ffrindiau a theulu.

Mae Tîm Iechyd Amgylcheddol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn argymell bod pawb yn mynd â larwm CO gyda nhw pan fyddant yn aros i ffwrdd o'u cartref (e.e. ar wyliau, teithiau busnes). 

Dylai larymau CO clywadwy/gweledol gyrraedd y safonau canlynol:

  • Safon Brydeinig EN50291
  • Meddu ar y nod Prydeinig neu Ewropeaidd cymeradwy, fel y nod Barcud

Dylid profi larymau CO o leiaf bob mis drwy ddilyn cyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.

Yn arolwg diweddaraf Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, dywedodd 77 y cant o ymatebwyr fod ganddynt larwm CO gartref. Fodd bynnag, dim ond tri y cant sydd bob amser yn mynd â larwm CO gyda nhw pan fyddant yn aros i ffwrdd o'u cartref, gyda phedwar y cant pellach yn dweud eu bod yn gwneud hyn weithiau. Dywedodd y mwyafrif (85 y cant) o ymatebwyr nad ydynt byth yn mynd â larwm CO gyda nhw pan fyddant yn aros i ffwrdd o'u cartref.

Meddai Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Gall gwenwyno CO ladd, a gall y symptomau a'r arwyddion gael eu camgymryd am bethau eraill fel ffliw, gwenwyn bwyd a hangofyr. Ond, diolch byth, mae'n hawdd ei atal.

“Gartref, mae'n bwysig cael larwm CO sy'n gweithio a chael yr holl offer gwresogi a choginio wedi'u gwirio gan weithiwr proffesiynol o leiaf unwaith y flwyddyn.

“Ond mae hefyd yn werth mynd â larwm CO gyda ni wrth deithio yn y DU neu dramor.

“Cofiwch – dylai barbeciwiau, stofiau gwersylla a gwresogyddion awyr agored gael eu defnyddio mewn mannau wedi'u hawyru'n dda, awyr agored yn unig a byth dan do.

“Os byddwch yn sylwi ar unrhyw un o symptomau gwenwyno CO (cur pen, pendro, teimlo'n sâl, diffyg anadl, cwympo a mynd yn anymwybodol) dylech wneud y canlynol:

  • Rhoi'r gorau i ddefnyddio'r offer a allai fod yn achosi'r broblem,
  • Os yw'n ddiogel gwneud hynny, agor unrhyw ffenestri neu ddrysau i adael awyr iach i mewn,
  • Ewch â phawb allan i'r awyr agored ar unwaith,
  • Gofynnwch am gyngor gan weithiwr proffesiynol cyn gynted â phosibl,
  • Os ydych yn y DU, ffoniwch y Llinell Argyfwng Nwy ar 0800 111999”

Bob blwyddyn, mae tua 30 o farwolaethau damweiniol o wenwyno CO acíwt ac mae angen i dros 200 o achosion o wenwyno nad yw'n angheuol gael eu derbyn i'r ysbyty yng Nghymru a Lloegr.

Mae atal gwenwyno CO yn syml:

Arwyddion – Dylech wybod chwe phrif symptom gwenwyno CO: cur pen, pendro, teimlo'n sâl, diffyg anadl, cwympo a mynd yn anymwybodol.

Gwasanaeth – Sicrhewch fod yr holl offer gwresogi a choginio yn cael eu trin o leiaf unwaith y flwyddyn gan weithiwr proffesiynol sy'n gymwysedig ac wedi cofrestru gyda sefydliad priodol.

Sŵn/Gweledol - Gosodwch larwm CO clywadwy/gweledol.