Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltu â'r cyhoedd am iechyd a llesiant

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal arolwg ffôn ymgysylltu â'r cyhoedd i holi aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru sut y mae coronafeirws a mesurau rheoli sy’n gysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant.

Efallai bydd aelodau o’n tîm yn cysylltu â chi dros y ffôn dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf i ofyn rhai cwestiynau i chi am eich profiadau o coronafeirws ac am eich iechyd. Gall aelodau DJS Research Ltd. 01633 769576 hefyd gysylltu â chi i gyflwyno’r arolwg ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd yr wybodaeth a roddwch yn ddienw ac yn gyfrinachol a bydd yn cael ei defnyddio i helpu i lywio ymateb gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. 

Diolch o flaen llaw am roi o’ch amser i gefnogi’r gwaith hwn.