Cyhoeddig: 5 Rhagfyr 2023
Mae ymchwil newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar y cyd â Phrifysgol Wolverhampton, wedi nodi pedair sgil allweddol sy'n helpu arweinwyr iechyd cyhoeddus i sbarduno newid ac yn y pen draw gwella canlyniadau iechyd, yn enwedig i'r rhai mwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Mae arwain newid systemau yn sgil hanfodol sydd ei hangen ym maes iechyd cyhoeddus; y gallu i ddylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau ac i ysbrydoli eraill er mwyn arwain newid a hwyluso hyn i ddigwydd. Rhaid i arweinwyr iechyd weithio ar draws sawl ‘system’ oherwydd mae achosion materion iechyd cyhoeddus yn aml yn gymhleth ac yn amlochrog.
Mae canfyddiadau adolygiad llenyddiaeth a chyfweliadau ag un ar ddeg arweinydd systemau iechyd cyhoeddus yn amlygu pedair nodwedd arweinyddiaeth allweddol sydd eu hangen ar gyfer sbarduno newid systemau ym maes iechyd cyhoeddus:
Gweld y darlun mawr a dewis dulliau addas
Cydweithio effeithiol a rhychwantu ffiniau
Grymuso eraill i arwain, gan adeiladu ar y cysyniad o arweinyddiaeth wasgaredig
Cynnal cymhellion a gwerthoedd sylfaenol cryf, gan gynnwys yr angen am ostyngeiddrwydd a meddylfryd dysgu.
Meddai'r Athro Jo Peden, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus mewn Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Nawr yn fwy nag erioed, gyda chyfyngiadau cyllidol a'r angen i symud systemau iechyd tuag at atal, mae meddu ar sgiliau arweinyddiaeth i ddod â phartneriaid ar y daith yn hanfodol.
“Yn fyd-eang ac yn genedlaethol, mae materion iechyd cyhoeddus cymhleth fel newid hinsawdd yn gofyn am ymateb systemau. Mae hyn yn golygu bod angen i arweinwyr iechyd cyhoeddus feddu ar y gallu i ddeall y darlun ehangach, i gyflwyno gweledigaeth o sut y gall sectorau weithio gyda'i gilydd, ac i ddod â'r sectorau hynny gyda nhw er mwyn llunio a gweithredu atebion ar y cyd.
“Boed yn arwain yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol neu'n fyd-eang, mae sbarduno newid systemau yn un o'r sgiliau iechyd cyhoeddus craidd. Mae'r ymchwil hon yn diffinio nodweddion arweinwyr iechyd cyhoeddus sydd wedi llwyddo i sbarduno newid systemau. Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn annog datblygu'r nodweddion hyn yn arweinwyr y dyfodol.”
Meddai James Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil a Datblygu Cymunedol ym Mhrifysgol Wolverhampton: “Mae'n bleser gennym gefnogi'r ymchwil bwysig hon sy'n torri tir newydd o ran cymhwyso dealltwriaeth o ddamcaniaeth arweinyddiaeth fodern i faes iechyd cyhoeddus. Rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad yn cefnogi ac yn ysbrydoli ymarferwyr i arwain newid systemau cymhleth yng Nghymru a thu hwnt.”