Cyhoeddwyd: 24 Tachwedd 2022
Mae ymchwilwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ennill Gwobr Effaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2022 ar y cyd am eu hadroddiad ar brosiect dyfodol gofalwyr di-dâl yng Nghymru.
Canfu prosiect ymchwil Dyfodol Gofalwyr Di-dâl yng Nghymru fod gan ofalwyr di-dâl iechyd gwaeth o lawer na'r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru; ond mae bod mewn cyflogaeth â thâl, sicr a/neu addysg wrth ofalu am eraill yn gysylltiedig â llesiant uwch ymhlith gofalwyr di-dâl.
Wedi'i hariannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd yr ymchwil yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac ymgysylltodd â'r GIG, Gofalwyr Cymru, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Llywodraeth Cymru. Dywedodd y beirniaid fod y prosiect yn dangos effaith a chydweithio gwirioneddol mewn maes sy'n cyd-fynd â pholisi pwysig Llywodraeth Cymru.
Meddai'r Athro Kieran Walshe, Cyfarwyddwr Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru:
“Mae wedi bod yn flwyddyn anhygoel i'r gymuned ymchwil ac mae cymaint wedi'i gyflawni. Mae'r gwobrau hyn yn gyfle gwych i gydnabod ymdrechion syfrdanol yr ymchwilwyr a helpodd i adennill ymchwil bwysig a mynd i'r afael â heriau bywyd go iawn wrth i ni ddod allan o'r gwaethaf o'r pandemig.”
Meddai Jiao Song, Prif Ystadegydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae ein canfyddiadau'n rhoi dealltwriaeth fanwl o iechyd ymhlith gofalwyr di-dâl yng Nghymru, yn enwedig sut y gall llesiant meddyliol gwael effeithio'n anghymesur ar grwpiau gwahanol, a sut y mae hynny'n wahanol yn ôl lefel y dwyster gofalu, cyrhaeddiad addysgol a statws cyflogaeth. Gellir defnyddio'r canfyddiadau hyn i helpu i lywio camau gweithredu ar draws sectorau i wella llesiant gofalwyr di-dâl. Mae hyn yn cynnwys pwysigrwydd deall a chefnogi anghenion iechyd gofalwyr, a mynd i'r afael â rhwystrau i fynediad a chadw mewn addysg a chyflogaeth dda, deg.”
Ar anterth pandemig COVID-19, amcangyfrifwyd bod dros 700,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru, sef cynnydd o tua 400,000 yn 2019. Fodd bynnag, oherwydd diffyg casglu data systematig ar ofalwyr di-dâl, mae'n anodd gwybod nifer gwirioneddol y gofalwyr di-dâl yng Nghymru, a chael dealltwriaeth lawn o'u hanghenion iechyd.
Aeth yr ymchwil a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe i'r afael â'r her hon drwy ddwyn ynghyd ddata gofal sylfaenol dienw ac Arolwg Cenedlaethol Cymru. Llwyddodd y tîm i nodi dros 62,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru dros y cyfnod rhwng 2011 i 2020, a disgrifio iechyd y grŵp hwn
I weld yr adroddiadau llawn, ewch i:
Heddiw yw diwrnod hawliau Gofalwyr 2022 – diwrnod y mae Gofalwyr yn Gyntaf yn ei nodi i helpu gofalwyr yn y DU i wybod a deall eu hawliau, gan roi'r cyfle i ofalwyr gael yr help a'r cymorth sydd eu hangen arnynt ac y mae ganddynt hawl iddynt.
I gael rhagor o fanylion am y gwobrau: