Cyhoeddwyd: 2 Mai 2023
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ei arolwg blynyddol ar ei allbynnau data a gwybodaeth.
Nod yr arolwg yw deall sut mae unigolion a sefydliadau yn defnyddio ein gwaith, yr effaith y mae’n ei chael a’r hyn y gallwn ei wneud i wella.
Dywedodd Kirsty Little, Ymgynghorydd Arweiniol ar gyfer rhannu gwybodaeth:
“Fel sefydliad, ein nod yw ysbrydoli camau gweithredu sy’n cael effaith ar iechyd y cyhoedd trwy wybodaeth hygyrch, amserol o safon ragorol. Rydym am sicrhau ein bod yn rhoi anghenion rhanddeiliaid wrth wraidd yr wybodaeth a grëwn.
“Drwy lenwi’r arolwg, bydd modd i chi ein help ni i ddeall pa mor dda y mae ein cyflawniad ar hyn o bryd, a llywio’r hyn y byddwn ni’n ei wneud yn y dyfodol. Hoffen ni hefyd eich annog chi i rannu’r arolwg gyda’ch cydweithwyr a’r rhanddeiliaid rydych chi’n gweithio gyda nhw. Po fwyaf o sylwadau rydyn ni’n eu casglu, mwyaf fydd effaith ein harolwg.
“Rhoddodd arolwg y llynedd adborth defnyddiol iawn sydd eisoes wedi'i ddefnyddio i lunio gwaith ar bersonâu defnyddwyr, datblygu'r we, safonau cyhoeddi a’r fframwaith effaith.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi ymlaen llaw am gymryd rhan.”
Mae modd cyrchu'r arolwg trwy'r ddolen isod tan ddiwedd Mai ac mae'n gwbl ddienw.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ruth.davies6@wales.nhs.uk.