Cyhoeddwyd: 6 Ebrill 2023
Mae dadansoddwyr data yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi'r mewnwelediad manwl cyntaf o ran sut roedd pobl ifanc yng Nghymru yn teimlo ac yn ymddwyn yn y blynyddoedd cyn ac yn ystod y pandemig. Maent wedi cymryd canlyniadau arolwg mawr o ysgolion a chyflwyno adroddiadau ar y data yn lleol, gan ein helpu i ddeall y gwahaniaethau rhanbarthol mewn iechyd a llesiant pobl yng Nghymru am y tro cyntaf.
Mae’r data yn cael eu cyflwyno mewn dangosfwrdd ar-lein sydd ar gael i'r cyhoedd. Mae'n cyflwyno data o arolwg gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yr arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr (SHW) gan SHRN yw'r mwyaf o'i fath yn y DU, gyda mwy na 123,000 o fyfyrwyr ym mlynyddoedd 7 i 11 o 202 o ysgolion yng Nghymru yn cymryd rhan yn 2021/22. Mae'r arolwg eang ei gwmpas, a gynhelir bob yn ail flwyddyn, yn holi myfyrwyr am agweddau ar eu hiechyd corfforol a meddyliol a pherthnasoedd cymdeithasol gyda data dienw yn cael eu rhannu ag ysgolion i lywio ymarfer lleol.
Mae llesiant meddyliol wedi gostwng yn sylweddol ers 2017, yn enwedig ymhlith merched. Mae canran y merched sy'n nodi llesiant meddyliol isel wedi cynyddu 9.5 pwynt canran rhwng 2017 a 2021. Roedd mwy o ferched na bechgyn hefyd yn nodi'n gyson eu bod yn teimlo llawer o bwysau o waith ysgol ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae'r gwahaniaeth hwn wedi bod yn cynyddu bob blwyddyn. Yn y data diweddaraf, nodwyd y sgoriau llesiant meddyliol uchaf ym Mro Morgannwg, Abertawe a Chaerdydd a nodwyd y sgoriau llesiant isaf yng Nghonwy, Torfaen a Merthyr Tudful.
Meddai Zoe Strawbridge, dadansoddwr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae'r data hyn mor werthfawr gan eu bod yn rhoi'r mewnwelediad manwl cyntaf i ni o iechyd ac ymddygiad pobl ym mhob rhanbarth yng Nghymru. Gellir eu defnyddio i helpu ysgolion, awdurdodau lleol a chyrff iechyd i lywio polisïau ac arferion.”
Mae rhywfaint o newyddion da - ers 2017 mae llai o fyfyrwyr wedi nodi eu bod yn cael eu bwlio neu'n bwlio eraill, mae hyn yn arbennig o amlwg ymhlith myfyrwyr hŷn. Roedd y rhai 16 oed sydd wedi'u bwlio yn 2021 yn 25.5 y cant o gymharu â 30.7 y cant yn 2017.
Yn ogystal ag iechyd meddwl, llesiant a bywyd ysgol, archwiliodd yr arolwg nifer o bynciau gwahanol, gan gynnwys bywyd teulu a chymdeithasol, gweithgarwch corfforol a deiet, perthnasoedd a'r defnydd o sylweddau.
Mae'r canfyddiadau eraill yn cynnwys bod un o bob pump (20 y cant) o bobl ifanc yn nodi eu bod wedi rhoi cynnig ar e-sigarét. Ar y cyfan, nododd tri y cant o bobl ifanc eu bod yn smygu tybaco ar hyn o bryd. Roedd 16 y cant yn unig o bobl yn bodloni'r canllawiau gweithgarwch corfforol o gael o leiaf 60 munud y dydd. Mae’r data yn dangos bod lefelau gweithgarwch corfforol wedi lleihau o flwyddyn i flwyddyn rhwng 2017 a 2021 gyda llai na 12 y cant o ferched yn bodloni canllawiau gweithgarwch corfforol o gymharu â bron 21 y cant o fechgyn yn y flwyddyn ddiweddaraf o ddata.
Mewn ymdrech i wella llesiant emosiynol pobl ifanc, mae arbenigwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog ysgolion i fabwysiadu Dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol Llywodraeth Cymru. Mae'r dull yn cydnabod y gall pob agwedd ar fywyd ysgol effeithio ar iechyd a llesiant ac mae'n rhoi arweiniad i helpu pawb i weithio gyda'i gilydd i'w gwella. Mae data SHRN yn chwarae rôl hanfodol wrth nodi'r materion sydd angen mynd i'r afael â nhw a ffordd o werthuso cynnydd.
Meddai Emily Van de Venter, Ymgynghorydd Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu ysgolion i ddefnyddio Fframwaith Llywodraeth Cymru ar Ddull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol i gynorthwyo eu disgyblion yn y cyfnod hwn ar ôl y pandemig. Mae hyn yn cydnabod y gall pob agwedd ar fywyd ysgol effeithio ar iechyd meddwl a llesiant disgyblion ac y dylai dysgwyr, rhieni a gofalwyr, athrawon a llywodraethwyr i gyd weithio gyda'i gilydd i wella iechyd a llesiant yng nghymuned yr ysgol. Dylai amgylchedd ac ethos ysgol fod yr un mor bwysig â'i chwricwlwm a'i pholisïau. Rydym yn annog ysgolion i ymrwymo i'r dull hwn a'u cynorthwyo i wneud gwelliannau.”
Un o’r ysgolion a dreialodd y dull oedd Ysgol Brenin Harri'r VIII yn y Fenni. Mae'r Pennaeth Cynorthwyol Jake Parkinson yn dweud y bu'n fuddiol.
Dywedodd,
“Mae bod yn ysgol beilot ar gyfer y dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol wedi bod yn brofiad dysgu cadarnhaol iawn i'r ysgol. Mae'r fframwaith hwn wedi ein helpu i ddathlu'r holl bethau gwych rydym eisoes yn eu gwneud, ond mae hefyd wedi cynorthwyo'r ysgol i nodi meysydd o ddatblygu pellach, gan ein helpu i flaenoriaethu anghenion drwy hunanwerthuso sy'n seiliedig ar dystiolaeth.”
Gan siarad am ganfyddiadau a gasglwyd o SHRN, meddai Ian Gerrard, Pennaeth Ysgol Aberconwy:
“Mae'r data hyn yn bwysig iawn i ni fel ysgol gan eu bod yn rhoi mewnwelediad manwl i ni o sut y mae'r pandemig wedi effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru. O ganlyniad, mae ein tîm bugeiliol mewn sefyllfa dda i roi cymorth i unigolion a grwpiau o blant sy'n mynegi pryderon am eu hiechyd meddwl, ac rydym yn gallu cynllunio'n strategol i ddarparu gweithgareddau a fydd yn eu cynorthwyo.”
Mae SHRN yn bartneriaeth rhwng y Ganolfan Gwerthuso a Datblygu Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd, Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD), Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymchwil Canser y DU. Mae'n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr adrannau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r aelodaeth ysgolion yn 2021 yn cynnwys yr holl ysgolion uwchradd a chanol a gynhelir yng Nghymru.
Ymunwch â thîm yr Arsyllfa ar gyfer gweminar ar 18 Ebrill am 2pm a fydd yn trafod arddangosiadau o'r ffordd orau o ddefnyddio'r dangosfwrdd, gyda chyfle i holi cwestiynau a thrafodaeth gyda chrewyr y dangosfwrdd, Rhwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru ac academyddion o DECIPHer.