Cyhoeddwyd: 5 Ionawr 2026
Mae manteision rhoi'r gorau i ysmygu yn cael eu hamlygu mewn ymgyrch newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda'r nod o helpu pobl i wneud 2026 yn flwyddyn pan fyddant yn rhoi'r gorau i ysmygu am byth.
Wrth i ni gychwyn ar y Flwyddyn Newydd, mae llawer o bobl yn myfyrio ar newidiadau cadarnhaol, gan ei gwneud yn foment berffaith i dorri’r gafael sydd gan ysmygu arnynt. Mae Torri’r Gafael yn canolbwyntio ar yr heriau bywyd real y mae ysmygwyr yn eu hwynebu—boed straen yn y gwaith, neilltuo “amser i mi fy hun”, neu wella ansawdd bywyd. Mae'r ymgyrch yn cynnig cefnogaeth ymarferol drwy wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu am ddim, dan arweiniad arbenigwyr, gan Helpa Fi i Stopio.
Mae'r rhan fwyaf o ysmygwyr eisiau rhoi'r gorau iddi, ac mae llawer yn gwneud ymdrechion ar eu pennau eu hunain bob blwyddyn. Ond mae tystiolaeth yn dangos bod defnyddio cefnogaeth strwythuredig gan y GIG yn cynyddu'r siawns o lwyddo yn sylweddol. Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnig cyngor am ddim, wedi’i arwain gan arbenigwyr a'i deilwra i'w hanghenion, ar amser a lle sy'n addas iddyn nhw—ynghyd â Therapi Amnewid Nicotin (NRT) AM DDIM neu feddyginiaeth rhoi'r gorau i ysmygu arall.
Nid yn unig y mae rhoi'r gorau i ysmygu yn llesol i iechyd—gall drawsnewid sefyllfa ariannol rhywun. Gyda phecyn o 20 o sigaréts bellach yn costio £16.45, mae rhywun sy'n ysmygu pecyn y dydd yn gwario dros £115 yr wythnos, sef tua £6000 y flwyddyn - arian y gellid ei gynilo neu ei wario ar bethau sy'n wirioneddol bwysig.
Ysmygu yw prif achos clefydau a marwolaethau y gellir eu hatal yng Nghymru o hyd. Rhwng 2020 a 2022, roedd cyfartaledd o 3,845 o farwolaethau ymhlith oedolion 35 oed a throsodd o ganlyniad i ysmygu—mwy nag un o bob deg o'r holl farwolaethau yn y boblogaeth hon. Dros yr un cyfnod, achosodd ysmygu fwy na 17,000 o dderbyniadau i'r ysbyty bob blwyddyn, gan ddangos y baich aruthrol y mae ysmygu’n ei roi ar wasanaethau gofal iechyd yng Nghymru.
Mae angen ei gwneud hi'n haws i bobl fyw'n dda ac i gyrraedd sefyllfa lle nad yw cynhyrchion tybaco’n cael eu hystyried yn rhan arferol o fywyd bob dydd. Mae'n her sylweddol o hyd. Adroddodd Arolwg Cenedlaethol Cymru fod 10% o oedolion wedi ysmygu yn 2024–25, sy'n dal i gynrychioli degau o filoedd o bobl mewn perygl.
Dywed Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, “Mae ysmygu’n parhau i niweidio miloedd o fywydau yng Nghymru bob blwyddyn—ond mae newid yn digwydd. Mae llai o bobl yn ysmygu nag erioed o'r blaen, a gyda'r gefnogaeth gywir, gall hyd yn oed mwy o ysmygwyr fod yn rhan o'r duedd gadarnhaol honno. Rydyn ni’n annog pobl i wneud hwn yn adduned Blwyddyn Newydd y maent yn glynu wrthi ac rydym yn gwybod y bydd defnyddio ein cyngor arbenigol am ddim yn eu helpu i wneud hynny. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisiau helpu pobl i fyw bywydau hirach ac iachach. I wneud hyn, mae ein cynghorwyr arbenigol Helpa Fi i Stopio ar gael i gefnogi pobl i roi’r gorau i ysmygu am byth.”
Ewch i www.helpafiistopio.cymru am gymorth arbenigol am ddim a mynediad at feddyginiaeth rhoi'r gorau i ysmygu.