Neidio i'r prif gynnwy

Y Canlyniadau Asesu Risg Iechyd Diweddaraf: Withyhedge

Cyhoeddwyd: 14 Hydref 2024

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal asesiad risg iechyd pellach o ddata ansawdd aer a gasglwyd yng ngorsaf monitro Ysgol Spittal, gan gwmpasu'r cyfnod rhwng 27 Awst  a 30 Medi 2024. Yn ystod yr amser hwn, roedd adegau pan oedd y crynodiadau o hydrogen sylffid yn yr aer yn uwch na lefel annifyrrwch arogleuon Sefydliad Iechyd y Byd (5ppb / 7ug/m3).

Yn ogystal, rydym wedi adolygu monitro ansawdd aer a gynhaliwyd gan Geotechnology mewn safleoedd eraill yn y gymuned rhwng 9 Awst a 4 Medi 2024 a monitro a gynhaliwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (hefyd yn y gymuned) rhwng 13 Mehefin a 4 Medi.  Mae'r data monitro hyn wedi cofnodi un adeg pan oedd crynodiadau o hydrogen sylffid yn yr aer yn uwch na lefel annifyrrwch arogleuon Sefydliad Iechyd y Byd (5ppb / 7ug/m3).

Er bod y data hyn yn galonogol ar y cyfan, rydym yn gwybod, hyd yn oed ar grynodiadau isel, y gall arogleuon drwg arwain at ben tost/cur pen, cyfog, pendro, llygaid dyfrllyd, trwyn wedi'i rwystro, gwddf llidus, peswch neu wichian, problemau cysgu a straen. Gall hyn ddigwydd hyd yn oed pan nad yw'r sylweddau sy'n achosi'r arogl yn uniongyrchol niweidiol i iechyd. Mae'r rhain yn adweithiau cyffredin, ac fel arfer, dylai'r effeithiau hyn basio pan fydd yr arogl wedi mynd. Mae'r risg iechyd hirdymor (hyd oes) yn parhau i fod yn isel.    

Gall cau ffenestri a drysau pan fydd arogleuon yn digwydd, neu pan fydd y gwynt yn chwythu o'r safle tirlenwi tuag at eich cartref, helpu i atal arogleuon rhag dod i mewn. Cofiwch beidio â rhwystro ffenestri neu fentiau yn llwyr.  Mae hyn oherwydd eu bod yn darparu aer i awyru poptai neu wresogyddion a gallant helpu i reoli lleithder.   

Pan fydd arogl o'r tu allan wedi pasio, bydd agor ffenestri a drysau yn helpu i gael gwared ar unrhyw arogleuon sy'n weddill.  

Mae partneriaid amlasiantaethol yn adolygu ac yn gwirio data monitro gyda'i gilydd. Yna, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu defnyddio i lywio asesiad risg iechyd cyn rhannu ein casgliadau â'r cyhoedd. Bydd yr asesiad risg iechyd yn parhau i gael ei adolygu a'i ddiweddaru wrth i ragor o ddata monitro gael eu rhyddhau i ni.