Cyhoeddwyd: 12 Medi 2024
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnal asesiad risg iechyd pellach o ddata ansawdd aer a gasglwyd yng ngorsaf monitro Ysgol Spittal, gan gwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Gorffennaf 2024 a 26 Awst 2024. Ni chofnodwyd gormodiannau o lefel annifyrrwch arogleuon (5ppb / 7ug/m3) Sefydliad Iechyd y Byd.
Yn ogystal, rydym wedi adolygu gwaith monitro ansawdd aer a gynhaliwyd gan GeoTechnology mewn safleoedd eraill yn y gymuned rhwng 4 Mehefin 2024 a 5 Awst 2024. Nid yw'r monitro hwn wedi cofnodi unrhyw ormodiannau o lefel annifyrrwch arogleuon Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae'n galonogol nad oes gormodiannau o lefel annifyrrwch arogleuon Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer y cyfnodau hyn. Fodd bynnag, rydym yn deall, hyd yn oed ar grynodiadau islaw'r lefel hon, gall ymatebion synhwyraidd unigol amrywio, ac efallai fod arogleuon ysbeidiol wedi cael eu profi.
I rai, gall arogleuon gwael arwain at gur pen, cosi yn y llygaid, cyfog, pendro, a blinder anarferol, hyd yn oed pan nad yw'r sylweddau sy'n achosi'r arogl eu hunain yn wenwynig niweidiol i iechyd. Mae'r rhain yn adweithiau cyffredin, ac fel arfer, dylai'r effeithiau hyn basio pan fydd yr arogl wedi mynd. Mae'r risg iechyd hirdymor (hyd oes) yn parhau i fod yn isel.
Gall cau ffenestri a drysau pan fydd arogleuon drwg yn digwydd, neu pan fydd y gwynt yn chwythu o'r safle tirlenwi tuag at eich cartref, helpu i atal arogleuon rhag dod i mewn. Cofiwch beidio â rhwystro ffenestri neu fentiau yn llwyr. Mae hyn oherwydd eu bod yn darparu aer i awyru poptai neu wresogyddion a gallant helpu i reoli lleithder.
Pan fydd arogl o'r tu allan wedi pasio, bydd agor ffenestri a drysau yn helpu i gael gwared ar unrhyw arogleuon sy'n weddill.
Bydd yr asesiad risg iechyd yn parhau i gael ei adolygu a'i ddiweddaru wrth i ragor o ddata monitro gael eu rhyddhau i ni.