I ddathlu ymgyrch #ChwaluStereoteipiau Wythnos Gwyddoniaeth Prydain, sy'n proffilio'r bobl a'r gyrfaoedd amrywiol mewn gwyddoniaeth, rydym wedi siarad â chydweithwyr am stereoteipiau gweithio mewn gwyddoniaeth yr hoffent eu chwalu.
Heddiw, rydym yn cyflwyno stori Caoimhe i chi.
'Byddwch yn fwy fel dŵr!
Yn yr ysgol, rwy’n cofio eisiau mynd ar drywydd Meddygaeth, roedd clefydau heintus bob amser yn fy swyno – po fwyaf erchyll, gorau oll. Ond nid oedd y realiti o allu mynd i'r brifysgol ar gael i mi ar y pryd.
Rwy'n dod o gefndir lle nad oedd y rhan fwyaf o bobl wedi mynd i'r brifysgol neu hyd yn oed aros yn yr ysgol. Roedd fy nghyfalaf cymdeithasol a'm hadnoddau i fynd ar drywydd y llwybr hwnnw yn gyfyngedig. Yn wir, gadewais yr ysgol cyn fy arholiadau Safon Uwch, gan weithio mewn ffatri am flwyddyn, cyn penderfynu mynd yn ôl i'r ysgol a gorffen fy arholiadau. Cefais le i astudio Microbioleg, gydag ysgoloriaeth addysgu a ffynhonnell gyllid ar gyfer myfyrwyr difreintiedig, ac felly dechreuais yrfa gwmpasog iawn i epidemioleg ac iechyd cyhoeddus.
Gweithiais mewn sawl swydd iechyd cyhoeddus ar ôl graddio gyda gradd yna gradd Meistr mewn Meddygaeth Drofannol. Cefais gyfleoedd gwych i deithio a gweld y byd a chyfrannu at reoli clefydau ac ymchwil mewn gwledydd eraill; rhywbeth nad oeddwn byth yn credu fyddai ar gael i mi.
Tyfodd fy nghariad at iechyd cyhoeddus ac epidemioleg. Roeddwn wrth fy modd â'r agweddau technegol ond hefyd y creadigrwydd a gogoniant datrys problemau. Ac roeddwn wrth fy modd yn siarad â phobl y newidiwyd eu bywydau gan yr hyn a wnaethom.
Chwiliais am fentoriaid ar hyd y ffordd. Gwnaethant helpu i fy llywio a'm datblygu yn fy rolau gwaith mwy penodol, gan fy helpu i ddeall fy nghryfderau, a lle cefais hyd i lawenydd a phwrpas yn fy ngwaith. Roeddent yn eirioli ar fy rhan ar hyd y ffordd hefyd. Daeth y bobl hyn yn fodelau rôl ar gyfer fy ngyrfa wyddonol.
Gyda llawer o gymorth gan uwch gydweithwyr, llwyddais i sicrhau cyllid gan yr Uned Ymchwil Diogelu Iechyd i astudio ar gyfer PhD, ac felly, yn anffodus, gadewais fy swydd (â chyflog da) i gychwyn ar fywyd amser llawn yn fyfyriwr. Roeddwn yn 38, gyda babi 1 oed gartref.
Roedd gadael diogelwch fy swydd yn anodd, gan nad oeddwn erioed wedi cael sicrwydd ariannol. Ond gyda chymorth a chred gan fy nheulu a'm cydweithwyr, roeddwn yn teimlo'n hyderus i achub ar y cyfle. Roedd yn gam pwysig wrth feithrin fy hun fel model rôl benywaidd cadarnhaol ar gyfer fy mab, ac ail-lunio fy rhwystrau canfyddedig fy hun, i'r ddau ohonom. Nid oedd bob amser yn hawdd gweithio yn y byd academaidd am sawl blwyddyn, ac roeddwn yn aml yn teimlo allan o le, yn gorfod mynd i'r afael â syndrom ymhonnwr, am resymau croestoriadol – bod yn fenyw, bod yn ddosbarth gweithiol, a'r ffaith nad oeddwn o Brydain.
Nawr, a minnau'n uwch-epidemiolegydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, rwy'n cael dod i'r gwaith bob dydd i wneud gwahaniaeth, gan weithio gyda chydweithwyr sydd wir yn caru'r gwaith y maent yn ei wneud ac yn poeni amdano.
Fel rhan o'r tîm epidemioleg genomig, rwy'n gweithio i gynghori a chyfeirio'r gwaith o gymhwyso data pathogen genomig i wyliadwriaeth rheolaidd, a pharamedrau ar gyfer eu defnydd mewn ymateb i frigiad o achosion. Gall fy niwrnod fod yn llawn cyfarfodydd technegol am glefydau heintus, darllen neu greu siartiau, tablau ac allbynnau gwyliadwriaeth eraill, mapio amrywiolion COVID, trafod brigiadau o achosion mewn ysbytai, ysgrifennu papurau, cyfrannu at addysgu – mae'r amrywiaeth yn ddiddiwedd.
Am y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf hefyd wedi arwain modiwl MSc ym Mhrifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd, ar epidemioleg heintiau gofal iechyd, ac rwy'n parhau i ymwneud â gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd.
Mae epidemioleg yn yrfa foddhaus ac yn rhyfeddol o greadigol - mae llywio problemau a dod o hyd i ffordd rwydd o amgylch problem yn ganolog i'r ffordd rydym yn cyflawni pethau.
Fy nghyngor i unrhyw un sy'n ystyried y llwybr hwn fyddai ei gymryd. Nodwch gydweithwyr ysbrydoledig a chefnogol a gofynnwch am fentoriaeth. Hyd yn oed os byddwch yn cymryd ffordd gwmpasog a throellog i'r byd hwn, ewch gyda hynny. Nodwch a chymerwch gyfleoedd cadarnhaol lle gallwch, byddwch yn hyderus yn y cyfraniad rydych yn ei wneud, a chofiwch mai eich profiadau bywyd chi sy'n gwneud eich cyfraniadau mor bwysig a dilys yn ein gwasanaethau iechyd cyhoeddus." - Dr Caoimhe McKerr, Epidemiolegydd yn CDSC