Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos 76: Canlyniadau arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd 'Sut ydym ni yng Nghymru?'

Cyhoeddwyd: 24 Medi 2021

Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Dyma'r canfyddiadau allweddol:  

  • dywedodd 38 y cant o bobl eu bod wedi bod yn poeni am faterion iechyd eraill nad oeddent yn gysylltiedig â'r Coronafeirws yn yr wythnos ddiwethaf (25 y cant yn poeni ychydig, ac 13 y cant yn poeni llawer.)  
  • dywedodd 37 y cant o bobl eu bod wedi profi salwch neu broblemau iechyd nad oeddent yn gysylltiedig â'r Coronafeirws yn ystod y pythefnos diwethaf, gan gynnwys: 
    • roedd gan 18 y cant beswch neu annwyd 
    • roedd gan 14 y cant ddolur gwddf 
    • roedd gan 8 y cant y ffliw neu symptomau tebyg i'r ffliw 
    • roedd gan 6 y cant anhwylder stumog 
    • roedd gan 5 y cant haint ar y frest 
  • dywedodd 64 y cant o bobl y byddent yn poeni mwy am ddal coronafeirws na Chymru'n mynd yn ôl i gyfyngiadau symud. dywedodd 36 y cant y byddai mynd yn ôl i gyfyngiadau symud yn eu poeni'n fwy.  
  • dywedodd 62 y cant eu bod wedi gadael eu cartref neu eu gardd bob dydd yn yr wythnos ddiwethaf. Dyma'r gyfran uchaf ers i'r arolwg ddechrau ym mis Ebrill 2020. 

Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 13 – 19 Medi 2021, pan gafodd 602 o bobl eu holi.   

Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru. 

Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.