Cyhoeddwyd: 15 Chwefror 2021
Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dyma'r canfyddiadau allweddol:
- dywedodd 24 y cant o bobl eu bod wedi bod yn poeni ‘llawer’ am eu hiechyd meddwl a'u llesiant yn ystod y 7 diwrnod diwethaf; sy'n cyfateb i dros 600,000 o oedolion ledled Cymru.
- dywedodd 65 y cant o'r rhai sydd â phlant yn eu haelwyd eu bod wedi bod yn poeni ‘llawer’ am addysg eu plant yn ystod y 7 diwrnod diwethaf.
- roedd 86 y cant o bobl yn cytuno â'r datganiad ‘Bydd gwisgo masgiau wyneb o leiaf yn rhan achlysurol o fywyd am flynyddoedd i ddod’; roedd 14 y cant yn anghytuno.
- dywedodd 37 y cant o bobl eu bod wedi bod yn byw bywyd sy'n fwy ystyriol o'r hinsawdd ers dechrau sefyllfa'r coronafeirws; roedd 5 y cant wedi bod yn byw bywyd sy'n llai ystyriol o'r hinsawdd.
O'i gymharu â'r adeg hon y llynedd:
- dywedodd 65 y cant o bobl fod eu perthnasoedd cymdeithasol wedi gwaethygu; sy'n cyfateb i dros 1.6 miliwn o oedolion.
- dywedodd 48 y cant o bobl fod eu ffitrwydd corfforol wedi gwaethygu; sy'n cyfateb i dros 1.2 miliwn o oedolion.
- dywedodd 46 y cant o bobl fod eu pwysau wedi cynyddu; sy'n cyfateb i dros 1.1 miliwn o oedolion.
Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 1 i 7 Chwefror 2021, pan gafodd 603 o bobl eu holi.
Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.
Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.