Neidio i'r prif gynnwy

Wedi lapio'n gynnes, ond dal yn oer gartref: Astudiaeth yn tynnu sylw at yr anawsterau y mae aelwydydd incwm isel yn eu hwynebu wrth geisio cadw'n gynnes a'r effeithiau eang ar iechyd a bywyd bob dydd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi briffiad heddiw sy'n dangos effaith tymereddau cartrefi ar iechyd a llesiant pobl ar incwm isel. Cynhaliwyd yr astudiaeth ym mis Mawrth 2023. Roedd yn cynnwys 15 o bobl o aelwydydd incwm isel yng Nghymru, yr oedd pob un ohonynt hefyd wedi hunan-adrodd cyflwr iechyd hirdymor.  

Roedd y canlyniadau’n mesur tymheredd cyfartalog yn ystod y dydd yn brif ystafell fyw'r cartref am wythnos. Dangoswyd nad oedd hanner ohonynt yn cyrraedd yr isafswm a argymhellir ar gyfer aelwydydd cyffredinol, sef 18 gradd Celsius (gwelwyd amrediad rhwng 13.3°C ac 16.9°C). Roedd gan yr hanner arall brif ystafelloedd byw â thymheredd uwchlaw 18 gradd Celsius (gwelwyd amrediad rhwng 18.3°C a 23.1°C).  

Wrth ddisgrifio eu profiadau yn ystod y gaeaf diweddaraf, dywedodd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr eu bod wedi treulio'r rhan fwyaf o’u hamser, os nad eu holl amser, gartref, a gwnaethant ddisgrifio teimlo’n oer. Dywedodd rhai cyfranogwyr fod rhai rhannau o'r cartref yn oerach nag eraill: 

“Galla i fynd yno [i fyny’r grisiau lle nad oes ffynhonnell wresogi] am awr, ond  ar ôl hynny, mae'n union yr un fath â mynd allan i'r cefn.”  

Clywodd yr astudiaeth fod bron pob cyfranogwr yn “cael trafferth” gyda chost gwresogi eu cartrefi. Dywedodd un cyfranogwr: 

“Wel, mae’r biliau’n mynd i bentyrru, a dyna’r hyn rydw i'n poeni amdano. Mae'n iawn troi’r gwres ymlaen, ond dych chi’n gwybod, allwch chi dalu amdano pan fydd y bil yn cyrraedd?"  

Gwnaeth pob un ohonynt ddisgrifio ymddygiadau â’r bwriad o gynhesu eu hunain yn gyntaf, yn hytrach na gwresogi'r ystafell neu'r cartref. Mae’r rhain yn cynnwys cerdded yn y fan a'r lle, gwisgo dillad ychwanegol yn y cartref, fel cotiau, hetiau a sgarffiau, neu ddefnyddio poteli dŵr poeth i gadw'n gynnes. Roedd rhai ohonynt hefyd yn disgrifio mynd heb hanfodion (fel bwyd), cyfyngu ar hobïau yn y cartref, a pheidio â gwahodd ymwelwyr i'r cartref am eu bod yn ceisio rheoli costau ynni.  

“Mae dyddiau pan fydda i’n dewis peidio â bwyta er mwyn i ni gael gwres.” 

Gwnaethant siarad am y rhwystredigaeth, y diffyg cymhelliant a'r effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl o ganlyniad i dymheredd eu cartref. 

“Dw i’n meddwl ei bod hi’n ddigalonnus oherwydd eich bod chi’n oer bob dydd ac yna, dych chi’n gwybod, rydych chi’n pryderu’n barhaus am orwario ar eich bil cyfleustodau. Felly, dych chi’n gwybod, mae eich iechyd meddwl yn dioddef. Ydy, mae fy iechyd meddwl yn dioddef.” 

Dywedodd Dr Hayley Janssen, Ymchwilydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r ymchwil hon yn dangos yr heriau y mae pobl ar incwm isel yn eu hwynebu o ran gallu fforddio cynhesu eu cartrefi i lefel gyson a chyfforddus er mwyn cynnal eu hiechyd, a’r effeithiau negyddol y mae hyn yn eu cael ar eu hiechyd a’u llesiant meddyliol a chorfforol.” 

Dywedodd Ben Saltmarsh, Pennaeth Cymru yn National Energy Action: “Dyma ragor o dystiolaeth eto gan Iechyd Cyhoeddus Cymru o’r argyfwng yn ymwneud â chartrefi oer. Mae cymysgedd peryglus o incwm isel, prisiau ynni uchel a thai aneffeithlon yn golygu bod pobl yn methu â diwallu eu hanghenion sylfaenol – sy’n rhoi eu hiechyd mewn perygl. Mae angen inni wneud cartrefi’r rhai sydd fwyaf anghenus yn gynhesach, yn fwy gwyrdd ac yn iachach, a hynny ar frys.” 

Mae'r adroddiad i'w gael yma