Neidio i'r prif gynnwy

Tystiolaeth ryngwladol yn dangos bod 'trethi siwgr' yn lleihau'r defnydd o fwydydd llai iach

Cyhoeddwyd: 16 Ionawr 2025

Mae tystiolaeth o wledydd gan gynnwys Mecsico a Hwngari, wedi dangos pan fydd llywodraethau wedi gweithredu i gyflwyno trethi ar fwydydd afiach a diodydd wedi'u melysu â siwgr (SSB), mae'n arwain at ostyngiad o ran nifer y rhai sy'n eu prynu a'u defnyddio. 

Nid yw mesurau i annog pobl i brynu bwyd iachach drwy fentrau ariannol wedi'u gweithredu'n eang, felly mae diffyg tystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd y mesurau hyn.  Fodd bynnag, er bod y sail dystiolaeth ar weithredu ar raddfa fawr yn gyfyngedig ar hyn o bryd, mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd yn addawol. 

Mae ymchwilwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio adroddiad sganio'r gorwel rhyngwladol, Dulliau Cyllidol o fynd i'r afael â Gordewdra, i archwilio polisïau ariannol fel cynnydd mewn prisiau a chymorthdaliadau ar grwpiau bwyd penodol ac i ba raddau y mae'r polisïau hyn yn hyrwyddo deietau iachach. 

Mae cynnydd mewn prisiau ar fwydydd afiach wedi cynyddu o amgylch y byd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda 115 o wledydd yn gweithredu ‘treth siwgr’ ar SSB, a 41 o wledydd yn cyflwyno trethi bwyd yn genedlaethol. 

Mae hyn yn dilyn canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni a wnaeth argymhellion y dylid trethu SSB a bwydydd afiach, gan ddyfynnu tystiolaeth ynghylch yr effaith ddymunol y cafodd prisiau uwch ar ymddygiad prynu, yn ogystal â chostau isel gweithredu a dichonoldeb hyn. 

Mae tystiolaeth gynyddol y gall cyfuno trethi ar fwydydd llai iach â chymorthdaliadau neu drethi gwerthu llai ar opsiynau iachach fod yn ddull effeithiol. Mae'r adroddiad yn dweud bod y ffordd y mae'r trethi yn cael eu cynllunio a'u cyflwyno yn bwysig, er mwyn sicrhau bod y gweithredu yn effeithiol ac yn gynaliadwy. 

Meddai Ilona Johnson, Ymgynghorydd Gwella Iechyd, sy'n arwain ar Faeth a Gordewdra mewn oedolion, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae dros 60% o oedolion yng Nghymru dros bwysau iach ac nid oes un ateb i fynd i'r afael â hyn. Gall fod yn anodd cael deiet iach pan fo'r opsiynau llai iach yn rhatach ac ar gael yn haws yn y lleoedd rydym yn byw, yn gweithio ac yn cymdeithasu ynddynt.  

“Gyda thystiolaeth gynyddol a galwadau am ddefnyddio dulliau cyllido ar gyfer amgylchedd bwyd iachach, mae'n bwysig mynd ati'n barhaus i adolygu tystiolaeth o weithredu'r mesurau hyn mewn tiriogaethau ledled y byd. 

“Mae angen gwneud rhagor o waith yn y maes hwn i archwilio'r opsiynau ar gyfer dulliau cyllidol i gynorthwyo pobl yng Nghymru i gael deiet iachach a dysgu o fesurau a gyflwynwyd ledled y DU.” 

Gellir dod o hyd i'r adroddiad yma.