Cyhoeddwyd: 15 Mehefin 2022
Mae ystadegau swyddogol newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU) Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n cwmpasu'r cyfnod 2002 – 2019, yn dangos bod y gyfradd wedi'i haddasu ar gyfer oedran o ran achosion newydd o ganser bob blwyddyn wedi gostwng ychydig. Mae hyn yn awgrymu, ar wahân i oedran, fod y risg gyffredinol o ganser yn y boblogaeth yn gostwng yn raddol.
Gwnaeth WCISU addasiadau i ganiatáu ar gyfer y boblogaeth yn heneiddio yn ystod y cyfnod adrodd, ond pan na chafodd heneiddio ei ystyried, roedd nifer yr achosion newydd bob blwyddyn fesul 100,000 o'r boblogaeth wedi cynyddu bron 16 y cant yn ystod yr un cyfnod.
Cafwyd cynnydd o 25 y cant yn nifer yr achosion newydd o ganser a gafodd ddiagnosis yng Nghymru, gyda 20,058 o achosion newydd o ganser wedi cael diagnosis yn 2019, o gymharu â 16,066 yn 2002. Nododd WCISU mai un o'r prif achosion o'r cynnydd mewn canserau newydd yw maint cynyddol y boblogaeth, yn enwedig ymhlith grwpiau oedran hŷn, sydd â'r risg uchaf o ganser. Yn y 2019, roedd tua 80 y cant o'r achosion yn y rhai 60 oed a throsodd.
Mae'r ystadegau'n parhau i ddangos gwahaniaeth mewn cyfraddau canser rhwng dynion a menywod. Yn 2019, canfu'r adroddiad fod y gyfradd gyffredinol wedi'i haddasu ar gyfer oedran 25 y cant yn uwch mewn dynion nag mewn menywod. Mae tueddiadau canser dros amser, a'r gwahaniaethau rhwng dynion a menywod, yn rhannol o ganlyniad i batrymau newidiol ffactorau risg ymhlith y boblogaeth, yn enwedig smygu.
Roedd tueddiadau mewn cyfraddau canser yr ysgyfaint wedi'u haddasu ar gyfer oedran yn wahanol iawn mewn dynion a menywod. Cynyddodd cyfraddau'n gyflym mewn menywod yn ystod degawd cyntaf yr 21ain ganrif. Yn ystod yr ail ddegawd, arafodd y cynnydd hwn ac yna gwastadu. Yn y cyfamser, roedd y gyfradd mewn dynion wedi gostwng bron chwarter, er ei bod yn dal yn sylweddol uwch nag mewn menywod.
Yn wahanol i ganser yr ysgyfaint, mae gan dueddiadau mewn cyfraddau canser y coluddyn batrymau tebyg mewn dynion a menywod, er bod y gyfradd mewn dynion yn dal tua 50 y cant yn uwch nag ar gyfer menywod. Ym mhob rhyw, roedd y cyfraddau ar eu huchafbwynt tua 2011/2012, gan ostwng wedyn i gyrraedd lefelau tebyg i 2002.
Mae WCISU wedi amcangyfrif yn flaenorol y gallai fod modd atal hyd at 4 o bob 10 canser yng Nghymru. Mae'r prif ffactorau risg o ran atal yn cynnwys; smygu, bod dros bwysau neu'n ordew, ymbelydredd uwchfioled o'r haul a gwelyau haul, risgiau yn y gweithle fel asbestos, rhai heintiau fel HPV, yfed alcohol, deiet ffeibr isel, ymbelydredd fel radon mewn rhai cartrefi, pelydrau x lluosog a phrofion eraill mewn gofal iechyd, cig wedi'i brosesu a rhai mathau o lygredd aer.
Mae gan ein rhaglenni Sgrinio Coluddion Cymru a Sgrinio Serfigol Cymru effeithiau atal canser drwy nodi polypau'r coluddyn, haint HPV risg uchel a newidiadau cyn-ganseraidd i'r celloedd yng ngheg y groth, yn ogystal â rhoi diagnosis cynnar os bydd canser yn datblygu.
Meddai'r Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Mae ein hystadegau newydd yn darparu'r darlun diweddaraf, mwyaf dibynadwy a chyflawn o achosion o ganser yng Nghymru. Byddant yn darparu'r llinell sylfaen fwyaf dibynadwy i gymharu effaith pandemig Covid-19 ar ddiagnosis canser o 2020 ymlaen. Canser y prostad, canser y fron mewn menywod, canser yr ysgyfaint a'r coluddyn oedd y canserau mwyaf cyffredin o hyd yn 2019, gyda'r pedwar canser hyn yn cyfrif am dros hanner yr achosion newydd.
“Gwyddom y gallai fod modd atal hyd at 4 o bob 10 canser yn y boblogaeth. Gyda nifer cynyddol o ganser bob blwyddyn gydag anghydraddoldebau eang, bydd rheoli canser yn bwysig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac ar gyfer cadw rheolaeth o ran y galw cynyddol ar y gwasanaeth iechyd.”
Ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ganser, ond nid pob math, mae cyfraddau achosion yn cynyddu wrth i lefelau amddifadedd mewn ardal waethygu, yn rhannol oherwydd yr ymddygiad risg i iechyd a nodwyd uchod a rhai mathau penodol o swyddi. Mae amgylcheddau economaidd-gymdeithasol a ffisegol yn cyfrannu at y ffactorau risg hyn, ac yn ei gwneud yn fwy anodd osgoi risgiau iechyd fel llygredd aer. Mae'r gyfradd canser gyffredinol wedi'i haddasu ar gyfer oedran yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru tua 20 y cant yn uwch o gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Fodd bynnag, ar gyfer canser yr ysgyfaint, y gwahaniaeth hwnnw yw 270 y cant.
Mae'r ystadegau swyddogol hefyd yn dangos y bu newidiadau sylweddol, a rhai gwelliannau, i'r cam adeg diagnosis i lawer o fathau o ganser, ond nid pob math.
Er enghraifft, wrth i driniaethau a diagnosteg ddatblygu, ymchwilir i fwy o bobl sy'n cael diagnosis o ganser y coluddyn a nodir y cam ar adeg y diagnosis. Ynghyd â gwell data, mae hyn wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn y categori ‘cam anhysbys’ rhwng 2011 a 2019, a chyfradd y bobl â cham 4 ar adeg diagnosis yn cynyddu i 25 y cant o achosion. Roedd Cam 1 ar adeg diagnosis wedi cynyddu ychydig hefyd, i tua 16 y cant o achosion o ganser y coluddyn erbyn 2019.
Fel ym mhob gwlad arall, mae gan y rhan fwyaf o achosion o ganser yr ysgyfaint gam datblygedig ar adeg y diagnosis. Mae tua dwy ran o dair o achosion naill ai ar gam 3 neu 4 (y cam mwyaf datblygedig) yng Nghymru, heb fawr o newid yn y degawd hyd at 2019. Ar yr un pryd, mae'r gyfran uchel o achosion â ‘cham anhysbys’ wedi haneru, ac mae cyfran yr achosion cam 1 ar adeg diagnosis wedi cynyddu dros hanner, yn dilyn sawl menter gan GIG Cymru i wella diagnosis cynnar.
Gellir gweld yr adroddiad llawn yma:
Ceir rhagor o wybodaeth am waith Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru ar-lein yn: