Cafodd tua 400 o bobl eu profi am COVID-19 ar ddiwrnod cyntaf gweithrediadau o ddwy ganolfan brofi symudol yn Wrecsam.
Aeth bron 200 o bobl i'r ddwy ganolfan brofi, sydd wedi'u sefydlu yn Hightown a Pharc Caia dros y dyddiau nesaf. Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys pobl sydd wedi profi symptomau ysgafn COVID-19.
Meddai Dr Chris Johnson, Ymgynghorydd mewn Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chadeirydd y Tîm Rheoli Achosion Amlasiantaeth:
“Rydym yn ddiolchgar iawn i bobl Wrecsam am eu hymateb cyflym a brwd i'r cyfle hwn i gael eu profi.
“Dewch i gael eich profi, hyd yn oed os yw eich symptomau yn ysgafn. Po fwyaf o bobl â symptomau sy'n dod ymlaen, mwyaf fydd yr achosion y byddwn yn eu canfod. Yna gall mwy o bobl gael eu hatgyfeirio i'r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu, gan alluogi'r swyddogion olrhain cysylltiadau i weithredu er mwyn atal lledaeniad Coronafeirws yn yr ardal.
“Rydym yn gweld nifer uwch o achosion o'r Coronafeirws yn Wrecsam nag mewn rhannau eraill o Gymru. Er nad ydym wedi cael y canlyniadau o'r sesiynau profi hyn eto, rydym yn dawelach ein meddwl nad oes tystiolaeth o sefyllfa sy'n dwysáu'n gyflym.”
Meddai Lisa Bradford, Nyrs Cymorth Ansawdd ar gyfer Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: “Manteisiodd 400 o bobl ar y profion galw heibio a oedd ar gael yng nghymuned Wrecsam ddoe. Roedd y rhai a ddaeth i gael eu profi wedi'u rhannu rhwng y ddwy ganolfan brofi symudol.
“Mae hyn yn cynnwys pobl sydd wedi bod yn profi symptomau a nifer nad oeddent wedi bod yn profi symptomau, ond a oedd yn dal i boeni y gallent fod â COVID-19.
“Mae'r nifer a ddaeth i gael eu profi yn galonogol i ni ac mae llawer o bobl eisoes wedi dod atom y bore yma.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â symptomau COVID-19 i fanteisio ar y cyfle i gael eu profi a helpu i atal lledaeniad posibl COVID-19 yn ardal Wrecsam.”
Ymhlith y symptomau posibl i gadw llygad amdanynt mae peswch cyson newydd, tymheredd uchel, a cholli neu newid o ran eich synnwyr blas neu arogli arferol.
Mae'r canolfannau profi symudol yng Nghanolfan Iechyd Parc Caia ar Ffordd y Tywysog Siarl, ac yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Hightown, Fusilier Way, oddi ar Ffordd Bryn y Cabanau, o ddydd Mercher, 29 Gorffennaf.
Gwahoddir unrhyw un sydd am gael prawf i ddod rhwng 9am a 6pm.
Mae'r gwaith yn cael ei gydlynu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Wrecsam, a phartneriaid eraill, gyda chymorth gan y sefydliad sector gwirfoddol lleol, AVOW a grwpiau cymunedol.
Yn union fel mewn rhannau eraill o'r wlad, mae'r fyddin wedi helpu i sefydlu'r unedau profi symudol, ac rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod y rhain wedi bod mor llwyddiannus â phosibl.