Cyhoeddwyd: 3 Hydref 2022
Fel rhan o gynnig ehangach i ymateb i’r heriau iechyd cyhoeddus system gyfan yr ydym yn eu hwynebu mewn perthynas â'r effaith hirdymor ar iechyd y boblogaeth ac i gefnogi’r Byrddau Iechyd a’r system ehangach i fynd i’r afael â hyn, rydym yn gwneud rhai newidiadau. O 1 Hydref 2022, mae staff Timau Iechyd Cyhoeddus lleol bellach yn cael eu cyflogi gan y Byrddau Iechyd perthnasol.
Mae’r Timau Iechyd Cyhoeddus Lleol wedi chwarae rhan ganolog yn Iechyd Cyhoeddus Cymru gan ddarparu gwasanaeth gwerthfawr iawn, sydd hefyd wedi cynnwys yr heriau digynsail a wynebwyd wrth ymateb i'r pandemig COVID-19 yn ystod y blynyddoedd diwethaf – mae eu cyfraniad yn ystod y cyfnod hwn wedi bod yn eithriadol.
Nawr, yn fwy nag erioed, mae gennym nod a rennir i ddatblygu system iechyd cyhoeddus gref, fwy integredig er mwyn diogelu a thrawsnewid iechyd a llesiant pobl Cymru. Bydd ymgorffori adnoddau a sgiliau iechyd cyhoeddus arbenigol i raddau mwy ar lefel leol yn galluogi byrddau iechyd, a phartneriaid lleol, i gynyddu eu ffocws ar wella iechyd a llesiant y boblogaeth leol, a byddwn wrth gwrs yn parhau i'ch cefnogi chi a'n holl gydweithwyr i gyflawni hyn.
Edrychwn ymlaen yn fawr at barhau i gryfhau ein dulliau gweithredu ar y cyd ar lefel leol a chenedlaethol er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, gwella iechyd a llesiant, ac at gydweithio mewn ffordd gadarn, cysylltiedig ac chyson.