Mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf i ymgysylltu â'r cyhoedd, sef ‘Sut ydym ni yng Nghymru?’ wedi'u rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Nodwch fod y cwestiynau wedi'u gofyn cyn tynhau'r cyfyngiadau.
Dyma'r canfyddiadau allweddol:
- dywedodd 48% o bobl y byddai'n well ganddynt gyfyngiadau llymach dros y Nadolig (gofynnwyd y cwestiynau cyn tynhau'r cyfyngiadau). Roedd 42% o'r farn bod cyfyngiadau'r Nadolig ar adeg yr arolwg yn gywir fwy neu lai.
- dywedodd 79% o bobl y byddent am gael brechlyn coronafeirws (78%) neu eisoes wedi cael brechiad coronafeirws (1%); cynnydd o 68% a ddywedodd y byddent am gael brechiad yn wythnos flaenorol yr arolwg.*
- mae 34% o bobl wedi bod yn poeni ‘llawer’ am fynd allan mewn mannau cyhoeddus; i fyny o 20% yn wythnos ddiwethaf yr arolwg.
- roedd 60% o bobl yn anghytuno â'r datganiad ‘Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn dilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol’; i fyny o 48% yn wythnos ddiwethaf yr arolwg.
- mae 28% o bobl wedi bod yn poeni ‘llawer’ am fynd yn ddifrifol wael gyda'r coronafeirws ac mae 57% wedi bod yn poeni ‘llawer’ am golli un o'u hanwyliaid i'r feirws; i fyny o 18% a 42% yn y drefn honno yn ystod wythnos ddiwethaf yr arolwg.
Mae adroddiad diweddaraf yr arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod 14 i 20 Rhagfyr, pan gafodd 602 o bobl eu holi.
Bob pythefnos mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau â channoedd o bobl 18 oed neu drosodd ledled Cymru, i ddeall sut y mae'r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a’r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.
Mae'r arolwg yn rhan o gyfres o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy gyfnod y Coronafeirws.
*Dechreuodd brechiadau coronafeirws yng Nghymru ar 8 Rhagfyr