Mae Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol Cymru wedi cyhoeddi ei chweched adolygiad blynyddol.
Mae Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol Cymru yn gydweithrediad rhwng y tîm Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a swyddfa Cymru Canolfan Iechyd Cyhoeddus Lloegr ar gyfer Ymbelydredd, Cemegau a Pheryglon Amgylcheddol.
Mae'r gwasanaeth yn ceisio lleihau'r amlygiad amgylcheddol ac effeithiau ar iechyd, a helpu i greu cymunedau iach, teg a chynaliadwy.
Mae ein hadolygiad diweddaraf yn crynhoi gweithgarwch y gwasanaeth yn ystod 2018/19. Mae'n amlygu'r ystod eang o waith adweithiol a rhagweithiol a wnaed gan y tîm, sy'n ymwneud â digwyddiadau amgylcheddol acíwt, ansawdd aer a dŵr, a pheryglon parhaus fel plwm a radon.
Meddai Dr Huw Brunt, Ymgynghorydd Arweiniol Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein hadolygiad blynyddol diweddaraf. Mae nid yn unig yn disgrifio ehangder y materion rydym yn ymdrin â nhw, ond hefyd sut rydym yn gweithio gyda'n partneriaid a'r cyhoedd i reoli risgiau o beryglon amgylcheddol. Yn bwysicaf oll efallai, mae'n dangos sut y mae ein Gwasanaeth yn parhau i ddatblygu, gan gydbwyso'r ddarpariaeth o wasanaethau adweithiol i gefnogi rheoli digwyddiadau, ac ymdrechion rhagweithiol sy'n gwneud cyfraniad gwerthfawr at ddatblygiad polisi amgylcheddol ac iechyd yng Nghymru”
Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yng Nghymru Adolygiad Blynyddol 2018/19