Cyhoeddwyd: 6 Mehefin 2023
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth i helpu cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru i sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl a gynigir gan y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, er mwyn gwella'r canlyniadau iechyd i bobl ledled Cymru sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.
Mae gan y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys byrddau iechyd lleol, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, a Gweinidogion Cymru, yn ogystal ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyfrifoldeb cyfreithiol i “roi sylw dyledus i'r angen i leihau anghydraddoldebau canlyniad sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol”.
Mae canllaw Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl ar gyfer iechyd a llesiant i bobl a chymunedau sy'n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol: Canllaw i ddefnyddio'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol mewn polisi ac ymarfer yng Nghymru”, wedi'i gynllunio i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gallu defnyddio dulliau pwerus y ddyletswydd yn fwyaf effeithiol, ac i wneud gwahaniaeth diriaethol i gymunedau mewn ardaloedd difreintiedig.
Mae'r pecyn cymorth yn cwmpasu meysydd sy'n cynnwys disgrifio o'r hyn yw'r ddyletswydd mewn gwirionedd, effaith anfantais economaidd-gymdeithasol ar gydraddoldeb canlyniad, yr angen am arweinyddiaeth gref a gweladwy, a rhestrau gwirio ymarferol fel y gall sefydliadau ymgorffori'r ddyletswydd yn eu systemau a'u prosesau.
Meddai'r Athro Jo Peden, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, yng Nghanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae'r pecyn cymorth hwn yn ganllaw defnyddiol ac ymarferol iawn a fydd yn galluogi cyrff cyhoeddus yng Nghymru i ddefnyddio'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn fwyaf effeithiol.
“Mae'r canllaw yn cynnwys awgrymiadau ymarferol, felly mae'n cynnig y cyfle i gyrff cyhoeddus ymgorffori'r ddyletswydd yn eu dull cyfan ac i wneud newid gwirioneddol – felly nid yw'n ymarfer ticio bocsys, ond mae'n ychwanegu gwerth gwirioneddol i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”
Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol: lens iechyd cyhoeddus from Sophie OConnell on Vimeo.
Gellir lawrlwytho'r pecyn cymorth yma.