Mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ (WHO CC), yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i hailddynodi am bedair blynedd arall, gan sicrhau ei gwaith hanfodol i wella iechyd a llesiant pobl yng Nghymru a thu hwnt, tan 2026.
Y Ganolfan yw’r gyntaf a’r unig WHO CC yn y maes hwn o arbenigedd yn y byd, rhan o rwydwaith byd-eang o fwy nag 800 o Ganolfannau Cydweithredol mewn mwy nag 80 o wledydd.
Dros y pedair blynedd diwethaf, mae'r Ganolfan Gydweithredol wedi datblygu, cyfosod a rhannu gwybodaeth, canllawiau rhyngwladol, gwybodaeth y gellir gweithredi yn ei chylch, offer a dulliau ymarferol ar sut i fuddsoddi mewn ffordd fwy cynaliadwy o wella llesiant pobl, lleihau annhegwch, a meithrin cymunedau, economïau a phlaned sy'n gryfach ac yn fwy cydnerth.
Meddai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS;
“Mae hon yn garreg filltir i Gymru. Mae'r Ganolfan wedi bod yn allweddol wrth leoli Cymru fel dylanwadwr byd-eang, gan hyrwyddo polisïau ac atebion arloesol i wneud gwelliant parhaus i iechyd a llesiant pobl.
“Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau adferiad cynaliadwy o'r pandemig, gan roi llesiant, cydraddoldeb a ffyniant pobl wrth wraidd hyn. Mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd wedi bod yn ein cefnogi yn y gwaith hwn, gan ddod â dysgu rhyngwladol i lywio polisïau a gweithredu ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Sefydliad Iechyd y Byd tuag at adeiladu bywydau ffyniannus iach i bawb yng Nghymru a thu hwnt.”
Un o gyflawniadau carreg filltir y Ganolfan Gydweithredol yw sefydlu menter tegwch iechyd arloesol Sefydliad Iechyd y Byd yn genedlaethol am y tro cyntaf, gan gyflawni yn unol â Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd. Mae'r (Fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi) - Iechyd Rhyngwladol (phwwhocc.co.uk) yn rhoi llwyfan i lywio, hwyluso a chefnogi atebion a buddsoddiad traws-sector a chydweithredol sy'n cael eu llywio gan dystiolaeth a rhanddeiliaid tuag at gau'r bwlch iechyd yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y llythyr ailddynodi, diolchodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol ar gyfer Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd, Dr Hans Kluge, i'r sefydliad am y cyfraniad gwerthfawr a wnaed yn ystod ei gyfnod dynodi blaenorol a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gydweithio llwyddiannus parhaus.
Amlygodd Ms Chris Brown, Pennaeth Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd i Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Datblygu yn Fenis, yr Eidal, a chanolbwynt y Ganolfan Gydweithredol, y bartneriaeth hirsefydlog gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i hyrwyddo blaenoriaethau cenedlaethol a ledled Ewrop ar gyfer diogelu a gwella iechyd a llesiant y boblogaeth a buddsoddi ynddo.
Dywedodd, “Mae'n bleser gennym gydweithio'n agos â Chanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd, sydd ar ôl pedair blynedd heriol wedi sefydlu ei hun fel partner cryf gydag arbenigedd Sefydliad Iechyd y Byd, gan ddatblygu a chymhwyso dulliau ac offer newydd, a sicrhau cysylltiadau gweithredol â llunwyr polisi a phenderfyniadau ar lefelau byd-eang, Ewropeaidd, cenedlaethol ac is-genedlaethol i ddatblygu ein hagenda llesiant a thegwch a rennir.”
Mae rhaglen waith newydd Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd dros bedair blynedd yn canolbwyntio ar ddarparu tystiolaeth ac arbenigedd gwyddonol a pholisi i feithrin capasiti a gweithredu polisïau rhyng-sectoraidd effeithiol ar gyfer iechyd a thegwch ar draws y cwrs bywyd. Mae hefyd yn bwriadu arloesi a harneisio dulliau ac offer economaidd ac amlddisgyblaethol i gefnogi adeiladu Economi Llesiant yng Nghymru, gan drafod a nodi atebion i'r heriau byd-eang bwlch iechyd sy'n ehangu a gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol, yr ymateb i COVID-19 ac adfer ohono a newid hinsawdd.
Meddai'r Athro Mark A. Bellis OBE, Cyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Dros y pedair blynedd nesaf rydym yn gobeithio parhau i gryfhau effaith ac enw da'r gwaith iechyd cyhoeddus a wneir yng Nghymru ar raddfa genedlaethol a byd-eang. Gan adeiladu ar y gwaith rydym eisoes wedi'i wneud, byddwn yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu polisïau sy'n arwain y byd ac sy'n ysgogi buddsoddiad ar gyfer iechyd gwell a thecach a phlentyndod diogel a meithringar sy'n cynyddu iechyd drwy gydol y cwrs bywyd.
“Rwy'n falch iawn o fod yn parhau i gyfarwyddo ein Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd a diolch yn fawr i'r holl dîm anhygoel am y cyflawniad gwych hwn, yn ogystal â'n partneriaid Cymreig a rhyngwladol na fyddai'r gwaith hwn yn bosibl hebddynt.”
Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae'r ailddynodi yn gydnabyddiaeth gref, nid yn unig i Iechyd Cyhoeddus Cymru ond i Gymru fel cenedl, o'n heffaith ar yr agenda iechyd fyd-eang. Mae Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd wedi helpu i wella'r ddealltwriaeth ehangach o effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol pandemig y Coronafeirws a heriau allweddol eraill, fel newid hinsawdd a Brexit, ac mae'n cefnogi adferiad cynaliadwy a theg yng Nghymru.”
“Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chydweithwyr ac arbenigwyr ledled y byd, i sicrhau manteision mwyaf posibl dysgu ac arloesedd rhyngwladol i bobl Cymru, yn ogystal â gwella'n rôl yn yr agenda iechyd byd-eang a'n heffaith arni.”