Cyhoeddwyd: 9 Mawrth 2026
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dathlu ail-ddynodi ei Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol fel Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant. Mae hyn yn cadarnhau statws Cymru fel arweinydd byd-eang wrth lunio polisïau, strategaethau a buddsoddiadau gydag iechyd, llesiant a thegwch yn sail iddynt.
Mae'r ail-ddynodiad yn ymestyn statws y Ganolfan am bedair blynedd arall, gan gydnabod ei rôl unigryw fel Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd gyntaf o’i math a'r unig un yn y byd sy’n ymroi’n benodol i gynyddu buddsoddiad mewn llesiant pobl, cymunedau, cymdeithasau a'n planed. Yn ogystal, mae’n sicrhau cyfraniad parhaus Cymru at rwydwaith byd-eang o fwy nag 800 o Ganolfannau Cydweithredol ar draws mwy nag 80 o wledydd, ac yn sicrhau bod Cymru hefyd ar ei hennill.
Dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Rwy’n falch iawn o longyfarch y Ganolfan, sydd wedi bod yn allweddol wrth osod Cymru fel dylanwadwr byd-eang, sy’n hyrwyddo polisïau, buddsoddiadau a datrysiadau arloesol i wneud gwelliant parhaus i iechyd a llesiant y boblogaeth.
“Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Sefydliad Iechyd y Byd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod llesiant a ffyniant pobl a chyfleodd cyfartal iddynt wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'r Ganolfan Gydweithredol wedi bod yn ein cefnogi yn y gwaith hwn, gan ddod â dysgu, arbenigedd ac arferion gorau rhyngwladol i lywio polisïau a gweithredu ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Swyddfa Ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop tuag at adeiladu economïau llesiant a bywydau iach a llewyrchus i bawb yng Nghymru a thu hwnt.”
Ers iddo gael ei ddynodi yn 2018, mae'r Ganolfan Gydweithredol wedi cyflawni ystod eang o waith dylanwadol sydd wedi cryfhau polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwerth, a phartneriaeth ryngwladol. Mae wedi datblygu a rhannu canllawiau, tystiolaeth ac offer ymarferol i helpu llywodraethau a sefydliadau i wario a buddsoddi'n fwy effeithiol mewn iechyd a llesiant.
Mae'r corff hwn o waith wedi helpu i osod Cymru fel hyrwyddwr dros ddatblygu a chymhwyso meddwl a dulliau newydd tuag at adeiladu dyfodol iachach, tecach a mwy cynaliadwy i bawb, heb adael neb ar ôl.
Dywedodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Rydym yn hynod falch bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi cydnabod gwerth ac effaith ein gwaith unwaith eto. Mae'r ail-ddynodiad hwn yn adlewyrchu wyth mlynedd o ddatblygu gwybodaeth ac arferion gorau i helpu i flaenoriaethu adnoddau a phenderfyniadau sy'n amddiffyn a gwella iechyd y boblogaeth, yn lleihau anghydraddoldebau, yn adeiladu cymunedau cryfach a systemau gwydn yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
“Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda chydweithwyr ac arbenigwyr ledled y byd, i wneud y mwyaf o fanteision dysgu ac arloesi rhyngwladol i bobl Cymru, yn ogystal â gwella ein rôl iechyd y cyhoedd byd-eang.”
Yn y llythyr yn cadarnhau’r ail-ddynodiad, diolchodd Dr Hans Kluge, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop, i'r sefydliad am ei gyfraniad gwerthfawr a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at barhau â'r cydweithrediad llwyddiannus hwn.
Tynnodd Ms Chris Brown, Pennaeth Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygu yn Fenis, yr Eidal a phrif gyswllt y Ganolfan Gydweithredol, sylw at y bartneriaeth hirhoedlog ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i hyrwyddo blaenoriaethau cenedlaethol ac Ewrop gyfan gan gynorthwyo i gyflawni Rhaglen Waith Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd.
Dywedodd:
“Rydym yn falch o fod yn gweithio’n agos gyda Chymru a Chanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant. Mae wedi sefydlu ei hun fel partner cryf i Sefydliad Iechyd y Byd, gan ddarparu arbenigedd, gyrru momentwm ar gyfer gwell iechyd a llesiant a sicrhau cydweithrediad gweithredol â gwneuthurwyr penderfyniadau a deiliaid cyllidebau ar lefelau byd-eang, Ewropeaidd, cenedlaethol ac is-genedlaethol i ddatblygu ein hagenda llesiant a chydraddoldeb a rennir. “Mae’r Ganolfan wedi bod yn allweddol wrth gefnogi sefydlu a datblygu Menter Economi Llesiant Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd, sy’n dangos manteision buddsoddiadau mewn iechyd a llesiant ar gyfer cyflawni datblygiad cynaliadwy a chynhwysol. Trwy efelychu menter arloesol gan Sefydliad Iechyd y Byd, mae wedi sefydlu’r Platfform Datrysiadau Tegwch Iechyd cyntaf o'i fath, gan alluogi ac ysgogi ymgysylltiad, ymrwymiad a gweithredu traws-sector i leihau anghydraddoldebau ledled Cymru ac yn rhyngwladol.”
Gyda'i hailddynodiad wedi'i gadarnhau, bydd y Ganolfan Gydweithredol yn parhau i ehangu ei dylanwad cenedlaethol a'i heffaith fyd-eang drwy wneud y canlynol:
Mae'r uchelgeisiau hyn yn adeiladu ar hanes cryf y Ganolfan ac yn adlewyrchu ymrwymiad Cymru i fod yn esiampl fyd-eang ysbrydoledig ar gyfer llesiant, iechyd a ffyniant i bawb.
Dywedodd Dr Sumina Azam, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol a Chyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd:
“Dros y pedair blynedd nesaf rydym yn gobeithio parhau â’n gwaith rhagorol, a chryfhau rôl hanfodol ac effaith gadarnhaol buddsoddi mewn iechyd y cyhoedd a gwaith atal ar raddfa genedlaethol a byd-eang. Trwy adeiladu ar ein corff sylweddol o waith ac arbenigedd, byddwn yn parhau i gefnogi datblygiad polisïau sy’n arwain y byd sy'n defnyddio adnoddau ac yn ysgogi buddsoddiad ar gyfer systemau a lleoedd gwell, tecach, mwy diogel a mwy cynaliadwy sy'n meithrin iechyd a llesiant drwy gydol cwrs bywyd.
“Rwyf wrth fy modd gyda’r ail-ddynodiad ac eisiau diolch yn fawr iawn i’r holl dîm anhygoel am y cyflawniad gwych hwn, yn ogystal ag i’n partneriaid yng Nghymru ac yn rhyngwladol na fyddai’r gwaith hwn yn bosibl hebddynt.”