Neidio i'r prif gynnwy

Risgiau o lifogydd yn cynyddu ledled Cymru – mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnig cyngor ar y ffordd orau o baratoi

Cyhoeddwyd: 5 Chwefror 2026

Mae cynnydd mewn perygl o lifogydd yn un o'r risgiau iechyd mwyaf sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd yng Nghymru, gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pobl i fod yn barod, yn rhoi cyngor ar sut i ddarganfod a ydych chi mewn perygl a beth i'w wneud nesaf. 

Mae tua un o bob saith eiddo mewn perygl o lifogydd yng Nghymru, yn ôl ffigurau diweddaraf Cyfoeth Naturiol Cymru. Disgwylir i'r nifer hwn godi wrth i newid hinsawdd ddwysáu amlder a difrifoldeb digwyddiadau glaw eithafol, a gwneud paratoi hyd yn oed yn bwysicach ar gyfer y blynyddoedd i ddod.  Dyma pam mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn canolbwyntio ar amddiffyn pobl a chymunedau rhag risgiau iechyd newid hinsawdd.

Mae llifogydd diweddar ym Mynwy yn parhau i gael effaith gyda llawer o fusnesau yn dal i fethu ag agor wrth i weithrediadau clirio barhau.   Mae hyn yn cael effeithiau ariannol ar bobl leol ond mae hefyd yn effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant.

Dywedodd Clair Beard, perchennog tafarn y Robin Hood, ei bod yn parhau i gael ôl-fflachiadau ers i’r llifogydd gyrraedd yn oriau mân y bore ar 15 Tachwedd 2025.

Nid oedd y dafarn yn fusnes i Clair yn unig, roedd yn gartref iddi hefyd. Bu’n rhaid iddi aros ar lawr uchaf ei chartref am 12 awr, a doedd dim posib iddi adael.

Dywedodd, “Yn feddyliol mae'n parhau’n drawmatig iawn i mi feddwl am yr hyn a ddigwyddodd. Byddai’n cael ôl-fflachiadau dyddiol o'r dŵr yn dod i mewn. Pan ddechreuodd y llifogydd, roedden ni'n clirio'r bar. Erbyn i ni gyrraedd ein grisiau, roedd dŵr eisoes yn codi. Fy meddwl cyntaf oedd, a ydw i'n mynd i fod yn iawn?  Ydw i wir yn mynd i oroesi?  Oni bai eich bod chi'n ei brofi, ni fyddech chi byth yn credu pa mor frawychus y gall fod.   Dw i'n dal i feddwl amdano bob dydd.”

Mae Clair yn gobeithio y bydd ei phrofiad yn helpu eraill i ddeall pa mor gyflym y gall llifogydd waethygu a pham ei bod hi'n werth paratoi ymlaen llaw.

Dywedodd Clair Beard, perchennog tafarn y Robin Hood, ei bod yn parhau i gael ôl-fflachiadau ers i’r llifogydd gyrraedd yn oriau mân y bore ar 15 Tachwedd 2025.

Nid oedd y dafarn yn fusnes i Clair yn unig, roedd yn gartref iddi hefyd. Bu’n rhaid iddi aros ar lawr uchaf ei chartref am 12 awr, a doedd dim posib iddi adael.

Dywedodd, “Yn feddyliol mae'n parhau’n drawmatig iawn i mi feddwl am yr hyn a ddigwyddodd. Byddai’n cael ôl-fflachiadau dyddiol o'r dŵr yn dod i mewn. Pan ddechreuodd y llifogydd, roedden ni'n clirio'r bar. Erbyn i ni gyrraedd ein grisiau, roedd dŵr eisoes yn codi. Fy meddwl cyntaf oedd, a ydw i'n mynd i fod yn iawn?  Ydw i wir yn mynd i oroesi?  Oni bai eich bod chi'n ei brofi, ni fyddech chi byth yn credu pa mor frawychus y gall fod.   Dw i'n dal i feddwl amdano bob dydd.”

Mae Clair yn gobeithio y bydd ei phrofiad yn helpu eraill i ddeall pa mor gyflym y gall llifogydd waethygu a pham ei bod hi'n werth paratoi ymlaen llaw.

Dywedodd yr Athro Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Diogelu Iechyd yr Amgylchedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, “Mae’n normal teimlo dan straen neu’n bryderus os ydych chi wedi cael eich effeithio gan lifogydd. Mae’n bwysig ceisio cymorth iechyd meddwl os yw’n parhau.  Fodd bynnag, os gall y cyhoedd fod yn ymwybodol o'r camau ymarferol y gallant eu cymryd i ddeall eu risg o lifogydd a'r hyn y dylai fod yn barod ganddynt os cânt lifogydd, bydd yn helpu i wella canlyniadau iechyd i'r rhai yr effeithir arnyn nhw.”

Parhaodd: “Rydym am i bobl ledled Cymru aros yn ddiogel rhag niwed i iechyd newid hinsawdd drwy ddeall y risgiau ac ystyried paratoi pethau fel pecyn llifogydd neu becyn i’w gadw yn eu cartrefi rhag argyfwng.  Gallai hyn gynnwys pethau fel blanced, tortsh, meddyginiaeth a chyflenwadau i blant.   Ein blaenoriaeth yw amddiffyn pobl a chymunedau rhag risgiau iechyd newid hinsawdd.”

Dywedodd: “Wrth ddelio â llifogydd, mae tri cham i’w hystyried: CYN, YN YSTOD ac AR ÔL.
Cyn y llifogydd:

CYNLLUNIWCH YMLAEN LLAW:

  • Gwiriwch a yw eich ardal mewn perygl o lifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cofrestrwch i gael rhybuddion llifogydd yn eich ardal
  • Paratowch gynllun gweithredu brys a rhestr offer fel blanced, tortsh, meddyginiaeth, dogfennau yswiriant a chyflenwadau ar gyfer plant a babanod. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yma (Saesneg yn unig).
  • Symudwch eitemau gwerthfawr i fyny'r grisiau os yw’n bosibl, er mwyn lleihau colli dogfennau pwysig neu eitemau sentimental na ellir eu hadnewyddu.
  • Gwiriwch a yw eich yswiriant cartref yn cynnwys llifogydd.
  • Gwiriwch gyda'ch awdurdod lleol ynghylch pa drefniadau sydd ganddyn nhw i ddarparu adnoddau amddiffyn rhag llifogydd.

YN YSTOD LLIFOGYDD:

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan lifogydd, rydym yn eich cynghori i wneud y canlynol:

  • Gofalwch am eich gilydd, gwirio ar ffrindiau a chymdogion.
  • Osgowch dod i gysylltiad â dŵr llifogydd gymaint â phosibl. Peidiwch â gadael i blant nac anifeiliaid anwes chwarae mewn dŵr llifogydd. Efallai y bydd peryglon baglu cudd, gorchuddion tyllau cyfleustodau wedi'u gwthio ar agor neu geblau trydanol rhydd.
  • Os oes rhaid i chi fynd i'r dŵr, gwisgwch fenig gwrth-ddŵr, esgidiau rwber, a chofiwch fod yn ofalus o beryglon cudd. 
  • Peidiwch â throi offer trydanol ymlaen sydd efallai wedi bod mewn cysylltiad â dŵr llifogydd nes bod trydanwr cymwys wedi'u gwirio, gan fod risg o sioc drydanol.
  • Peidiwch â defnyddio generadur petrol na disel dan do gan fod risg ddifrifol o wenwyno carbon monocsid, a all ladd.
  • Cadwch unrhyw friwiau neu glwyfau agored yn lân ac yn sych. Gall gwisgo plastrau a rhwymynnau gwrth-ddŵr fod o help.
  • Golchwch eich dwylo, yn enwedig ar ôl mynd i'r tŷ bach, cyn bwyta neu baratoi bwyd - dyma'r ffordd bwysicaf o gael gwared ar fygiau niweidiol. 
  • Os nad oes gennych ddŵr glân, defnyddiwch gel diheintio dwylo neu weips gwlyb.
  • Mae'n normal teimlo'n bryderus neu'n ofidus, ond os bydd hyn yn parhau ceisiwch gymorth iechyd meddwl.
  • Os byddwch chi'n mynd yn sâl ar ôl llyncu dŵr llifogydd neu fwd ar ddamwain, yn enwedig os byddwch chi'n datblygu dolur rhydd, twymyn neu boenau stumog o fewn 10 diwrnod o fod mewn cysylltiad â dŵr llifogydd neu garthffosiaeth – ceisiwch sylw meddygol. 
  • Mynnwch wasanaeth cynnal a chadw gan beiriannydd Gas Safe ar gyfer eich offer gwresogi a choginio, hyd yn oed os ydyn nhw i’w gweld yn gweithio'n iawn. Mae risg o wenwyno carbon monocsid os nad ydyn nhw'n gweithio'n iawn. 
  • Os ydych chi'n poeni am eich iechyd meddwl eich hun neu iechyd meddwl rhywun arall, ceisiwch gefnogaeth gan deulu a ffrindiau, eich meddyg teulu neu gymorth arbenigol arall. 

 
AR ÔL LLIFOGYDD

Os ydych chi'n helpu rhywun sydd wedi cael ei effeithio gan lifogydd, mae yna ffyrdd syml y gallwch chi gynnig cefnogaeth:

  • Ceisiwch ymgyfarwyddo â natur y digwyddiad llifogydd, nodi sut y gall y rhai yr effeithir arnynt gael cymorth ac a oes risgiau llifogydd yn y dyfodol.
  • Gwiriwch eu bod yn ddiogel a helpwch nhw i gysylltu ag asiantaethau adfer rhag llifogydd os oes angen.
  • Gwiriwch nad oes anghenion iechyd corfforol brys. Os yw'n argyfwng, ceisiwch gymorth meddygol. 
  • Gofynnwch am anghenion a phryderon fel mynediad at fwyd, dŵr, lloches a meddyginiaeth.
  • Helpwch bobl i gysylltu â'u hanwyliaid ac eraill a all ddarparu ffynonellau cymorth cyfarwydd
  • Helpwch i nodi ffyrdd ymarferol a diogel o helpu eu hanghenion a'u mynediad at wasanaethau
  • Gwrandewch, darparwch yr wybodaeth sydd gennych chi, a helpwch bobl i wneud cynlluniau ar gyfer y camau nesaf. 

CYMORTH A CHEFNOGAETH PELLACH

Fforwm Llifogydd Cenedlaethol (Saesneg yn unig) Elusen i helpu, cefnogi a chynrychioli pobl sydd mewn perygl o lifogydd
Mae Flood Re (Saesneg yn unig) yn helpu cwmnïau yswiriant i helpu perchnogion tai sydd mewn perygl o lifogydd. 
Gwefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Mind Cymru - gwefan
Y Groes Goch - gwefan