Cyhoeddwyd: 20 Mawrth 2024
Mae'r grŵp Adeiladu Cymru Iachach, sef partneriaeth sy'n gweithio gyda'i gilydd i hyrwyddo mesurau atal ar draws holl feysydd iechyd, wedi rhyddhau astudiaethau achos sydd wedi'u cynllunio i ddangos sut y mae sefydliadau wedi gallu gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.
Mae'r astudiaethau achos yn ymwneud yn benodol â lliniaru effaith yr argyfwng costau byw, ac maent yn dangos y gwersi o weithgarwch sydd eisoes wedi digwydd.
Mae'r astudiaethau achos yn cynnwys prosiect a gynhaliwyd gan Gynghrair yr Ysbyty Plant sydd wedi'i gynllunio i leihau effaith tlodi bwyd teuluol yn ystod cyfnodau mewn ysbyty. Nodwyd bod rhai teuluoedd â phlant y mae angen iddynt dreulio cyfnod hirdymor yn yr ysbyty yn cael trafferthion ariannol oherwydd bod rhaid iddynt gymryd llawer o amser i ffwrdd o'r gwaith.
Creodd y prosiect gynlluniau talebau bwyd a darparu prydau bwyd ar draws amrywiaeth o safleoedd ysbytai, a oedd yn galluogi staff clinigol i ddarparu prydau bwyd am ddim neu â chymhorthdal i rieni sydd mewn angen ar y safle, gan eu helpu i arbed costau.
Nod prosiect arall ar Ynys Môn yw helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd drwy ddarparu prydau parod am ddim, o ansawdd da, a gynhyrchir yn lleol i deuluoedd mewn angen drwy rewgelloedd mewn deg hyb cymunedol ar draws yr ynys – gan ganolbwyntio ar ardaloedd gwledig difreintiedig. Roedd arweinwyr cymunedol sydd ynghlwm wrth bob hyb wedi helpu i nodi pobl a allai gael budd o'r prosiect a byddent yn cydlynu danfoniadau personol os oedd hynny'n bosibl.
Roedd y prosiect mewn ymateb i'r ffaith bod tlodi bwyd yn fater lleol hysbys, a defnyddiwyd prydau microdon i oresgyn materion nodweddiadol o ran dosbarthu bwyd, yn ogystal â diffyg gwybodaeth am goginio.
Mae'r gyfres o naw astudiaeth achos wahanol yn cwmpasu'r prif themâu a amlygir yn uwchgynhadledd Costau Byw Cymru Gyfan ym mis Mawrth 2023 – bwyd, ynni a thai, incwm a dyledion, iechyd meddwl a llesiant ac iechyd a gofal.
Meddai'r Cynghorydd Norma Mackie, Dirprwy Lefarydd ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chadeirydd Grŵp Adeiladu Cymru Iachach: “Gyda chyllidebau awdurdodau lleol yn cael eu gwasgu'n dynnach a chynghorau'n gorfod gwneud mwy gyda llai, mae'n bwysig iawn gallu dangos bod datblygiadau arloesol eisoes wedi cael effaith gadarnhaol mewn mannau eraill, gan ei fod yn lleihau'r risg sy'n gysylltiedig ag ymgymryd â'r prosiectau hanfodol hyn.
“Mae'r argyfwng costau byw yn effeithio ar bob awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae’n bwysig ein bod yn ystyried cynifer o fesurau â phosibl er mwyn helpu i wneud gwahaniaeth i'n trigolion. Bydd yr enghreifftiau hyn, ynghyd â'r gwersi a ddaw yn eu sgil, yn ddefnyddiol iawn i awdurdodau lleol wrth gynllunio.”
Ychwanegodd Jonathan Morgan, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac is-gadeirydd Adeiladu Cymru Iachach: “Mae'n amlwg bod y prosiectau hyn yn dangos manteision gweithio gyda sefydliadau partner a sefydlu anghenion y cymunedau lleol penodol, er mwyn datblygu atebion sy'n gweithio'n effeithiol.
“Rydym yn gobeithio y bydd sefydliadau eraill ledled Cymru yn gallu cymryd yr astudiaethau achos hyn fel enghreifftiau er mwyn datblygu prosiectau tebyg i helpu grwpiau agored i niwed ag effaith yr argyfwng costau byw.”