Neidio i'r prif gynnwy

Rhybudd ynghylch niwed cymryd opioidau wrth iddynt barhau i fod yn brif achos marwolaethau oherwydd cyffuriau yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 17 Rhagfyr 2025

Mae ffigurau newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod opioidau yn parhau i fod yn gyfrifol am y rhan fwyaf o farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau yng Nghymru. Mae’n sbarduno rhybuddion o'r newydd am y niweidiau sylweddol sy'n gysylltiedig â'r sylweddau hyn. 

Yn 2024, cofrestrwyd 417 o farwolaethau o wenwyno cyffuriau yng Nghymru, cynnydd o'i gymharu â 377 o'r flwyddyn flaenorol. O'r rhain, roedd 288 yn farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau — y nifer uchaf a gofnodwyd erioed. Achoswyd y rhan fwyaf o farwolaethau (84 y cant) gan wenwyno damweiniol.   

Opioidau yw'r sylweddau mwyaf cyffredin sy'n gysylltiedig â gwenwyno damweiniol. Cawsant eu cofnodi mewn 200 o farwolaethau (69 y cant). Roedd dros hanner y marwolaethau hyn yn ymwneud â heroin neu forffin.  

Roedd dros chwarter y marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau yn ymwneud â chocên, cynnydd ar y flwyddyn flaenorol. Adroddwyd yn aml hefyd am pregabalin, bromazolam, methadon, a diazepam. Mae’r rhai sy’n defnyddio amryw o gyffuriau hefyd yn cynyddu gyda 62 y cant o farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau yn cynnwys mwy nag un sylwedd, yn amlach na pheidio opioidau wedi'u cyfuno â chocên neu bensodiasepinau yn fwyaf cyffredin. 

Dros y degawd diwethaf, roedd pobl sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru fwy na phum gwaith yn fwy tebygol o farw o gamddefnyddio cyffuriau na'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Mae'r cyfraddau hyn hefyd yn amrywio ledled Cymru, gyda ffigurau awdurdodau lleol yn amrywio o 2.8 i 21.2 o farwolaethau fesul 100,000 o'r boblogaeth.  

Yn 2024, roedd dynion bron dair gwaith yn fwy tebygol o farw o gamddefnyddio cyffuriau na menywod. Oedolion hŷn oedd y grŵp oedran yr effeithiwyd arnynt fwyaf, gyda phobl dros 50 oed yn cyfrif am 34 y cant o'r holl farwolaethau o ganlyniad i gyffuriau. Roedd 17 o farwolaethau ymhlith pobl dan 25 oed, cynnydd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.  

Mae rhaglen Naloxone i'w Ddefnyddio Gartref (THN) Cymru Gyfan yn parhau i chwarae rhan allweddol wrth atal gorddosau angheuol. Er 2013, mae THN wedi cael ei ddefnyddio yn ystod 4,199 o ddigwyddiadau gwenwyno gan opioidau, gyda chanlyniad angheuol mewn dim ond 1.3 y cant o'r achosion hynny. Yn 2024, fe'i defnyddiwyd mewn 307 o ddigwyddiadau, unwaith eto gyda'r un gyfradd marwolaethau isel. Mae mwy o bobl bellach yn cael mynediad at THN, gyda 2,476 o unigolion newydd yn derbyn pecynnau y llynedd.  

Mae lleihau marwolaethau o ganlyniad i gyffuriau yn golygu mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sy'n llunio bywydau pobl, sy’n cynnwys mynediad at dai diogel, gwaith teg a chymunedau cefnogol. 

Dywedodd yr Athro Rick Lines, Pennaeth Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

"Mae'r ffigurau hyn yn dangos y niwed parhaus y mae opioidau'n ei achosi ledled Cymru, yn aml ochr yn ochr â sylweddau fel cocên a bensodiasepinau. Mae'r cynnydd mewn defnyddio cocên yn adlewyrchu'r hyn y mae gwasanaethau lleol wedi bod yn ei adrodd ers peth amser. 

"Mae'r data hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd Naloxone i'w Ddefnyddio Gartref fel rhan o'n hymateb cenedlaethol.  Mae'n ddiogel, yn effeithiol, ac mae'n achub bywydau.  Rydym yn annog unigolion sydd mewn perygl, a'r rhai o'u cwmpas, i gael mynediad at hyfforddiant a phecynnau am ddim. 

"Mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn parhau i fod yn llawer mwy cyffredin yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig. Mae hyn yn dangos yr angen am weithredu ehangach ar dai, tlodi ac anghydraddoldebau iechyd ochr yn ochr â gwaith gwasanaethau cyffuriau arbenigol." 

Mae gwasanaeth Dan 24/7 yn un o’r gwasanaethau hanfodol sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â chyffuriau neu alcohol. Mae cynghorwyr ar gael 24 awr y dydd 365 diwrnod y flwyddyn i ateb cwestiynau a chynnig cyngor drwy ffonio 0808 808 2234 neu anfon e-bost at - dan@helpline.wales

Am ragor o wybodaeth am Linell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru, ewch i wefan DAN 24/7 yn dan247.org.uk 

Cronfa Ddata Lleihau Niwed Cymru: Marwolaethau sy'n Gysylltiedig â Chyffuriau