*Cyfleoedd ffilmio a chyfweliadau isod*
Wrth i deuluoedd baratoi ar gyfer gwibdeithiau’r Pasg i ffermydd ac atyniadau anifeiliaid anwes, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi rhybudd clir: peidiwch â chodi, cwtsio na thrin ŵyn yn ystod ymweliadau y gwanwyn yma.
Mae tymor wyna yn uchafbwynt i lawer o aelwydydd, ond mae hefyd risgiau iechyd go iawn ynghlwm wrtho. Y llynedd, cofnodwyd tua 80 o achosion o cryptosporidiwm ar un fferm yn Ne Cymru yn unig.. Mae cryptosporidiosis yn haint y stumog sydd yn aml yn deillio o ddod i gysylltiad ag anifeiliaid fferm. Gall y salwch achosi dolur rhydd, chwydu, twymyn a chrampiau stumog gwael a gall fod yn arbennig o ddifrifol i blant ifanc a grwpiau agored i niwed.
Cadwch yn ddiogel yn ystod ymweliadau fferm y Pasg
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n annog ymwelwyr i fwynhau profiadau fferm yn gyfrifol drwy ddilyn rhagofalon hanfodol:
Canllawiau i drefnwyr digwyddiadau fferm
Dylai ffermydd sy'n cynnig mynediad i’r cyhoedd yn ystod y tymor wyna gymryd camau i leihau risgiau o haint:
Os byddwch yn mynd yn sâl
Dylai unrhyw un sy’n profi dolur rhydd neu chwydu cyn pen pythefnos o ymweld â fferm gysylltu â’u meddyg teulu neu ffonio GIG 111. Dylai'r rhai sy’n mynd yn sâl gadw i ffwrdd o'r gwaith, yr ysgol neu'r feithrinfa hyd nes iddynt fod yn rhydd rhag symptomau am o leiaf 48 awr.
Dywedodd Dr Andrew Nelson, Uwch Epidemiolegydd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae’r tymor wyna’n gyfle gwych i deuluoedd fwynhau’r cefn gwlad, ond mae’n hanfodol cofio y gall anifeiliaid fferm ifanc gario germau sy’n achosi salwch. Drwy osgoi dod i gyswllt agos ag ŵyn ac ymarfer hylendid dwylo da, gall ymwelwyr leihau'r risg o haint yn sylweddol a mwynhau Pasg diogel.”
CYFLE CYFWELIAD A FFILMIO
LLEOLIAD: Fferm Antur Cantref yn Ne Cymru, Fferm Cantref Uchaf, Cantref, Aberhonddu LD3 8LR
Dyddiad ac Amser: Dydd Llun 23 Mawrth - 1030am
Mae cyfweliadau ar gael ar gais gyda llefarydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Ffermwr Colin Evans o Fferm Cantref.
Dywedodd y ffermwr, Colin Evans: “Mae’r tymor wyna’n gyfnod hudolus, ac rydym wrth ein bodd yn ei rannu gyda’r cyhoedd, ond mae mor bwysig bod pobl yn ei fwynhau’n ddiogel. Dyna pam rwyf bob amser yn annog teuluoedd i ymweld â phrofiadau wyna go iawn lle mae pawb wedi’u diogelu. Yma yn Cantref, gall ymwelwyr wylio ŵyn yn cael eu geni a hyd yn oed eu bwydo â photel drwy'r corlannau, a hynny i gyd wrth gadw'r anifeiliaid a nhw eu hunain yn ddiogel. Mae gennym ni ddŵr cynnes a sebon yn barod ar gyfer golchi dwylo wedyn, felly yr unig beth y byddwch yn mynd ag ef adref yw atgof gwych, nid germau diangen.”
Bydd plant ysgol lleol hefyd yn ymweld â'r fferm i ddysgu am ŵyn newydd-anedig a sut i'w bwydo â photel drwy'r corlannau.
Gwybodaeth ddefnyddiol:
Pregnancy: advice on contact with animals that are giving birth - GOV.UK (www.gov.uk) (safle allanol, Saesneg yn unig)
Zoonoses are diseases that can be transmitted from animals to humans. Zoonoses (hse.gov.uk) (safle allanol, Saesneg yn unig)
ACDP Chlamydia abortus: ACDP Chlamydia abortus: Chlamydia abortus: epidemiology, transmission and prevention - GOV.UK (www.gov.uk) (safle allanol, Saesneg yn unig)
Toxoplasmosis: Toxoplasmosis: diagnosis, epidemiology and prevention - GOV.UK (www.gov.uk) (safle allanol, Saesneg yn unig)
Q fever: Q fever infections in humans: sources, transmission, treatment - GOV.UK (www.gov.uk) (safle allanol, Saesneg yn unig)