Cyhoeddwyd: 18 Mehefin 2021
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd y cyhoedd yng Nghymru ac mae’n Ymddiriedolaeth y GIG. Mae'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn rhoi cyfle i ymgysylltu â ni wrth adolygu cyflawniadau 2020/21 ar draws ein rolau a'n cyfrifoldebau niferus, ac wrth drafod y cyfleoedd a'r heriau sydd o'n blaenau.
Bydd copïau electronig o'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon Archwiliedig ar gael ar y wefan yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac yn cynnal cymaint o'i fusnes â phosibl mewn sesiwn y mae croeso i aelodau'r cyhoedd ei mynychu a'i harsylwi fel rheol. Fodd bynnag, yng ngoleuni'r cyngor a'r arweiniad cyfredol mewn perthynas â Coronafeirws (COVID-19), penderfynom ym mis Mawrth 2020 er budd diogelu'r cyhoedd yn y dyfodol agos, penderfynom ym mis Mawrth 2020 na fyddai ein staff ac aelodau'r Bwrdd yn ymgynnull mewn grwpiau er mwyn cynnal cyfarfodydd mwyach.
Rydym yn falch o ddweud ein bod yn ffrydio ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn fyw ar 29 Gorfennaf 2021 i roi'r cyfle i unrhyw un sydd â mynediad i'r rhyngrwyd wylio’r cyfarfod mewn amser real. Mae'r ddolen i'r cyfarfod wedi'i chynnwys isod a bydd hefyd yn cael ei rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:.
Fel mynychwyr, byddwch yn gallu gwylio’r cyfarfod drwy Microsoft Teams - bwrdd gwaith (Windows neu Mac), ar y we, neu declyn symudol. Os nad oes gennych Microsoft Teams, gallwch hefyd ddefnyddio porwr (Chrome, Firefox neu Edge). Noder nad yw Safari yn gweithio ar hyn o bryd.
Papurau Cyfarfodydd Bwrdd: Dolen i’r Digwyddiad Byw
Mae copïau electronig o'r papurau ar gael ac yn hygyrch i'w lawrlwytho o wefan Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru 10 diwrnod calendr cyn y cyfarfod trwy'r ddolen ganlynol: Dolen i Bapurau'r Bwrdd
Mae croeso i chi ofyn cwestiynau i’r Bwrdd a gallwch eu cyflwyno ymlaen llaw trwy eu hanfon trwy e-bost at y tîm dridiau cyn y cyfarfod. A fyddech chi cystal â chyflwyno pob cwestiwn erbyn 5pm ddydd Llun 26 Gorfennaf 2021 i PHW.CorporateGovernance@wales.nhs.uk
Byddwn yn ceisio ateb pob cwestiwn a dderbynnir ymlaen llaw yn sesiwn Holi ac Ateb yr agenda. Noder y bydd unrhyw gwestiynau na roddir sylw iddynt o fewn yr amser sydd ar gael ar yr agenda yn cael eu hateb yn ysgrifenedig yn dilyn y cyfarfod a byddant ar gael ar y wefan.
Byddwch hefyd yn gallu postio cwestiwn yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol trwy gyfleuster Holi ac Ateb Microsoft Teams, os yw'ch dyfais yn caniatáu hyn. Bydd unrhyw gwestiynau a gyflwynir yn ystod y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn cael eu hateb yn ysgrifenedig yn dilyn y cyfarfod. Bydd y rhain ar gael trwy'r wefan trwy'r ddolen ganlynol:
Tudalen Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Bwrdd 29 Gorfennaf
Cofion,
Jan Williams
Cadeirydd - Iechyd Cyhoeddus Cymru