Neidio i'r prif gynnwy

Rhowch eich adborth ar y wybodaeth a gynhyrchir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

13 June 2024

Mae pobl yng Nghymru yn cael eu gwahodd i roi eu hadborth ar y wybodaeth a'r data a rennir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ei arolwg blynyddol sy'n archwilio'r data a'r mewnwelediadau gwybodaeth rydym yn eu cyhoeddi i hysbysu'r cyhoedd a chefnogi sefydliadau allanol yn eu gwaith. 

Nod yr arolwg yw deall yn well sut y mae unigolion a sefydliadau yn defnyddio ein gwaith, yr effaith y mae'n ei gael, a'r hyn y gallwn ei wneud i wella. 

Gellir gweld yr arolwg drwy'r ddolen isod a bydd yn cau ar gyfer cyflwyniadau ar 5 Gorffennaf, 2024. 

Meddai Kirsty Little, Arweinydd Ymgynghorol Paratoi Gwybodaeth ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Nod Iechyd Cyhoeddus Cymru yw ysbrydoli camau gweithredu iechyd cyhoeddus effeithiol drwy ddarparu gwybodaeth o ansawdd uchel, amserol a hygyrch. Mae adborth manwl yn allweddol i sicrhau ein bod yn parhau i roi anghenion ein defnyddwyr gyntaf gyda phob darn o wybodaeth neu set ddata a gyhoeddir gennym. 

“Drwy lenwi'r arolwg, rydych yn ein helpu i ddeall beth rydym yn ei gael yn iawn a llywio'r hyn rydym yn ei wneud yn y dyfodol. Mae adborth o arolwg y llynedd eisoes wedi'i ddefnyddio i lywio ein gwaith ar ein datblygiad gwe, safonau cyhoeddi a mesur ein heffaith.”