Mae Pennaeth y Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Josie Smith, wedi rhoi tystiolaeth i ymchwiliad gan Dŷ'r Cyffredin yn San Steffan.
Aeth Josie i un o gyfarfodydd Pwyllgor Dethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ'r Cyffredin ar Bolisi Cyffuriau ar 11 Mehefin i siarad am niwed ac ymyriadau effeithiol ar gyfer defnyddio cyfreithiau anghyfreithlon.
Meddai Josie: “Roedd yn fraint gallu cyfrannu at yr ymchwiliad hwn. Mae'r Rhaglen Camddefnyddio Sylweddau wedi datblygu a chynnal dull iechyd cyhoeddus pragmatig sy'n seiliedig ar dystiolaeth gydag ymyriadau arloesol ac effeithiol yn sail i'r ffocws hwn ar lefel strategol yn genedlaethol ac ar lefel y DU. Edrychaf ymlaen at adroddiad ac argymhellion yr Ymchwiliad”
Roedd cylch gwaith a chwestiynu'r Pwyllgor Dethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Bolisi Cyffuriau yn cynnwys:
- Beth yw graddau'r niwed i iechyd sy'n deillio o ddefnyddio cyffuriau?
- Beth yw'r rhesymau dros y defnydd cychwynnol a pharhaus o gyffuriau? Mae hyn yn cyfeirio at yr amrywiaeth eang o ddefnydd, o ddefnydd risg uchel i normaleiddio defnydd hamdden
- Pa mor effeithiol a seiliedig ar dystiolaeth yw strategaethau ar gyfer atal ac ymyrryd yn gynnar wrth reoli a gwrthsefyll yr hyn sy'n ysgogi defnydd? Mae hyn yn cynnwys p'un a oes dull system gyfan yn cael ei gymryd
- Pa mor effeithiol a seiliedig ar dystiolaeth yw'r ddarpariaeth ar gyfer triniaeth? Mae hyn yn cyfeirio at wasanaethau gofal iechyd ac asiantaethau ehangach, ac i ba raddau y mae llwybrau gofal cydgysylltiedig yn gweithredu.
- A yw'r polisi'n canolbwyntio'n ddigonol ar driniaeth? Mae hyn yn cynnwys i ba raddau y mae iechyd yn cael ei flaenoriaethu, yng nghyd-destun dull gweithredu a arweinir gan gyfiawnder troseddol y Llywodraeth.
- Sut beth fyddai ymateb o ansawdd uchel, seiliedig ar dystiolaeth i gyffuriau?
- Pa ymatebion i gyffuriau yn rhyngwladol sy'n sefyll allan fel rhai arbennig o arloesol a/neu berthnasol, a pha dystiolaeth sydd o effaith yn yr achosion hyn?
Gellir gweld y dystiolaeth a ddarparwyd ar wefan Senedd y DU, gan gynnwys fideo o'r sesiwn dystiolaeth.