Neidio i'r prif gynnwy

Rhagor o weithredu gydag iechyd cyhoeddus yn awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful fel ymateb i gynnydd diweddar yn yr achosion o'r Coronafeirws 

Mae rhagor o weithredu gydag iechyd cyhoeddus yn digwydd yn ardaloedd awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y Coronafeirws yn dilyn cynnydd mewn achosion.

Mae’r gweithredu hwn yn cynnwys gofyn i bobl gyfyngu’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus i ddibenion hanfodol yn unig, fel ar gyfer addysg, gwaith, apwyntiadau meddygol hanfodol a siopa am fwyd.     

Hefyd mae’r bobl leol yn cael eu cynghori i beidio ag ymweld â chartrefi gofal, oni bai fod yr ymweliad yn un diwedd oes. Mewn achosion o’r fath, bydd cyfarpar diogelu personol llawn yn cael ei ddarparu. 

Mae’r gweithredu hwn o ganlyniad i gyfarfod o Dîm Rheoli Digwyddiadau amlasiantaeth, gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, ac awdurdodau lleol Merthyr a Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddywr Iechyd Cyhoeddus gyda Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a Chadeirydd y Tîm Rheoli Digwyddiadau amlasiantaeth:

“Rydyn ni’n ddiolchgar i fwyafrif helaeth trigolion ardaloedd awdurdodau lleol Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf am lynu wrth y canllawiau cadw pellter cymdeithasol, ac am y rhan maent wedi’i chwarae mewn diogelu pobl hŷn a phobl agored i niwed rhag y Coronafeirws.  

“Yn anffodus, mae tystiolaeth bod rhai pobl yn anwybyddu neu’n diystyru’r canllawiau yma, a dyma pam mae’r trosglwyddo wedi cynyddu, a rydyn ni nawr yn gorfod gweithredu ar lefel uwch gydag iechyd cyhoeddus er mwyn cyfyngu ar y lledaeniad.

“Ein neges ni i’r cyhoedd yw nad yw’r Coronafeirws wedi diflannu, a gall fod yn salwch difrifol iawn – yn enwedig i bobl hŷn ac agored i niwed.          

“Rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan i ddiogelu ffrindiau, teulu ac anwyliaid hŷn ac agored i niwed. Er nad oes pobl yn mynd i’r ysbyty oherwydd y feirws ar hyn o bryd, dim ond mater o wythnosau fydd hynny os na fyddwn yn gweithredu nawr. Mae hyn yn seiliedig ar beth rydyn ni’n ei weld yn Ewrop a’r ffeithiau gwyddonol am sut gall y feirws ledaenu’n gyflym o drosglwyddo cymunedol i dderbyn i ysbytai.”

Bydd y mesurau iechyd cyhoeddus eraill a fydd yn cael eu rhoi ar waith yn yr ardal hon yn cynnwys: 

  • Gofyn i bobl wisgo gorchudd wyneb neu fasgiau tair haen, os yw’n ddiogel gwneud hynny, yn y gwaith, mewn archfarchnadoedd ac mewn llefydd dan do neu gyhoeddus eraill llawn
  • Cadarnhau’r negeseuon presennol am gadw pellter cymdeithasol a’r angen am ddilyn canllawiau 
  • Gwell olrhain cysylltiadau er mwyn adnabod ffynhonnell yr haint a deall ei epidemioleg
  • Gweithio’n rhagweithiol gyda busnesau/eiddo i sicrhau cydymffurfiaeth â chadw pellter cymdeithasol 
  • Dewis gweithwyr llinell i dargedu grwpiau penodol i gael eu profi                     
  • Negeseuon penodol i ysgolion a phlant          
  • Cyflwyniad i unedau profi symudol     
  • Cyflogwyr yn annog staff i weithio o gartref os yw hynny’n bosib 
  • Archwiliadau ychwanegol ar deithwyr sy’n dychwelyd 
  • Rhoi gwybod i ysbytai a darpariaethau gofal sylfaenol am niferoedd cynyddol a chynghori profi gweithredol er mwyn adnabod achosion

Mae gan y cyhoedd rôl allweddol i’w chwarae mewn atal lledaeniad y Coronafeirws drwy gadw bob amser at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol – sef cadw dau fetr oddi wrth ei gilydd, golchi eu dwylo yn rheolaidd gyda sebon neu drwy ddefnyddio diheintydd ag alcohol ynddo, a gweithio o gartref os yw hynny’n bosib.

Os byddwch chi neu aelod o’ch teulu’n datblygu symptomau peswch, tymheredd uchel neu newid yn eich synnwyr blasu neu arogli neu golli’r synhwyrau hyn, rhaid i chi drefnu prawf Coronafeirws yn brydlon i helpu i reoli lledaeniad yr haint.