Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen sgrinio clyw babanod Cymru yn nodi 20 mlynedd

Cyhoeddwyd: 22 Hydref 2024

Mae mwy na 650,000 o fabanod wedi elwa o’r rhaglen sgrinio clyw babanod newydd-anedig yng Nghymru, sy’n dathlu ei phen-blwydd yn 20 y mis hwn.

Gyda 99% yn manteisio ar y rhaglen, mae wedi arwain at nodi colled clyw sylweddol, a elwir yn Amhariad Parhaol ar y Clyw yn ystod Plentyndod (PCHI), mewn dros 700 o fabanod.

Mae hyn wedi galluogi teuluoedd i gael mynediad at gymorth cyn gynted â phosibl ac mae'r oedran cyfartalog ar gyfer nodi achosion bellach yn naw wythnos. Yr oedran cyfartalog cyn y rhaglen oedd 21 mis.

Dywedodd Jude Kay, Pennaeth Rhaglen, Sgrinio Clyw Babanod Cymru (NBHSW):

'Am bob 1,000 o fabanod sy'n cael eu geni, bydd gan un neu ddau golled clyw. Mae'n bwysig i ddatblygiad lleferydd ac iaith y babi fod unrhyw golled clyw yn cael ei nodi'n gynnar fel y gellir rhoi cymorth.

'Mae'r prawf yn gyflym ac yn syml ac nid yw'n niweidio'r babi. Mae ein sgrinwyr yn fedrus iawn wrth ddatblygu cysylltiad a pherthynas ymddiriedus â rhieni yn gyflym yn yr oriau a'r dyddiau ar ôl genedigaeth. Mae teuluoedd yn dweud wrthym pa mor ddiolchgar ydyn nhw am ofal a phroffesiynoldeb ein sgrinwyr yn ystod cyfnod sy’n anodd yn emosiynol.'

Gwnaeth Kim, sy’n fam i efeilliaid, ganmol y rhaglen am fod yn gefnogaeth wych pan gafodd ei bechgyn bach eu geni'n gynamserol yn 34 wythnos.

Dywedodd:

'Cefais enedigaeth syml gyda fy mabi cyntaf, Zac, ond i Seb roedd cymhlethdodau a chafodd ei ddadebru.

'Yna treuliodd amser mewn gofal dwys i’r newydd-anedig yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yn cael therapi oeri i geisio cyfyngu ar unrhyw niwed i'r ymennydd. Dywedwyd wrthym i ddisgwyl y gwaethaf ac efallai na fyddai'n cyrraedd y bore.'

Yn wyrthiol, gwellodd Seb a chafodd yr efeilliaid eu sgrinio fel rhan o'r rhaglen clyw babanod, ond nid oedd Seb i'w weld yn ymateb i sŵn. Cafodd ei atgyfeirio i Awdioleg lle cafodd ei brofi eto ychydig wythnosau'n ddiweddarach a chanfod bod ganddo amhariad ar ei glyw.

'Oherwydd sylwyd ar golled clyw Seb yn gynnar roedd yn golygu y gallai gael mewnblaniad clust wedi’i osod yn y cochlea pan oedd yn flwydd oed, sef yr amser gorau i wneud hyn. Felly, mae'n bwysig sgrinio cyn gynted â phosibl fel y gellir mynd i'r afael ag unrhyw broblemau. Roedd y staff yn yr uned sgrinio mor gefnogol ac yn ein harwain bob cam o'r ffordd.'

Mae Seb bellach yn wyth oed ac yn fachgen bach hapus iawn sy’n dwlu ar ganu, dawnsio a drama. Ei swydd ddelfrydol yw perfformio yn y West End.

Dywedodd Jude Kay:

'Fel arfer mae'r prawf yn cael ei gynnig cyn i'r newydd-anedig adael yr ysbyty neu mewn clinig cymunedol o fewn ychydig wythnosau i'r enedigaeth. Ar gyfer babanod cynamserol, cynhelir yr asesiad awdioleg ar ôl y dyddiad geni disgwyliedig. Mae canfod colled clyw yn gynnar yn rhoi'r cyfle gorau i blant gyrraedd eu llawn botensial.'