Cyhoeddwyd: 18 Mai 2022
Mae nifer y plant 4-5 oed sydd â gordewdra wedi cynyddu mewn dwy ardal bwrdd iechyd wahanol ers 2018-19, yn ôl y Rhaglen Mesur Plant.
Oherwydd y cyfyngiadau a gyflwynwyd gan y pandemig ac adleoli staff gofal iechyd, dim ond ar gyfer plant yn ardaloedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe y bu'n bosibl cael digon o ddata ar gyfer y flwyddyn ysgol 2020-21. Oherwydd y gwahaniaethau yn y boblogaeth a'r cyfyngiadau ar gasglu data, ni ddylid tybio bod y niferoedd hyn yn adlewyrchu'r sefyllfa ledled Cymru.
Dangosodd data a gyflwynwyd fod cyfradd y plant â gordewdra wedi codi'n sylweddol yn y ddwy ardal bwrdd iechyd. Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, roedd 17.6 y cant o blant wedi eu categoreiddio fel rhai â gordewdra yn 2020-21, a oedd yn gynnydd sylweddol ar y gyfran o 13 y cant a nodwyd yn 2018-19. Yn yr un modd, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, cododd cyfran y plant a gafodd eu categoreiddio fel rhai â gordewdra o 11.8 y cant yn 2018-19 i 18.3 y cant.
Yn y ddwy ardal bwrdd iechyd, bu gostyngiad sylweddol hefyd yn nifer y plant â phwysau iach. Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gostyngodd cyfran y plant â phwysau iach o 72.2 y cant yn 2018-19, i 65.5 y cant yn 2020-21. Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gostyngodd y gyfran o 73.9 y cant i 66.7 y cant yn yr un cyfnod.
Nodwyd gwahaniaethau sylweddol rhwng y plant hynny yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a'r mwyaf difreintiedig ar draws y ddau fwrdd iechyd. Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, roedd 20.7 y cant o blant yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn profi gordewdra, o gymharu â 12.8 y cant yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Yn yr un modd, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae gan 21.1 y cant o blant yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ordewdra, o'i gymharu â 13.2 y cant yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Meddai Dr Llion Davies, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r adroddiad hwn dim ond yn rhoi darlun rhannol o ordewdra ymhlith plant, gyda data dim ond ar gael o ddau o'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru.
“Yn y ddwy ardal ddaearyddol hynny bu cynnydd sylweddol yn nifer y plant 4-5 oed sydd â gordewdra. Yn ogystal, bu bwlch parhaus hefyd rhwng y rhai yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig.
“Bydd y Rhaglen Mesur Plant yn parhau i fonitro mesuriadau plant dosbarth derbyn yng Nghymru, gyda chasglu data'n ailddechrau ar draws pob rhanbarth bwrdd iechyd o fis Medi 2022”.
Er mai dim ond digon o ddata sydd ganddynt i adrodd y darlun ar gyfer dwy ardal bwrdd iechyd yng Nghymru, gall rhieni ar draws y wlad ddod o hyd i wybodaeth i gynnal pwysau iach ar gyfer eu plant ar wefan Pob Plentyn Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r wefan yn seiliedig ar ’10 Cam i Bwysau Iach’, a chafodd ei datblygu gydag arbenigwyr mewn partneriaeth â rhieni, felly mae wedi'i chynllunio i roi'r cymorth ymarferol sy'n hanfodol ar gyfer blynyddoedd cyntaf bywyd plentyn.
Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am wahanol gamau bywyd plentyn, o'r cyfnod cyn geni'r babi, drwy'r misoedd cyntaf hyd at oedran cyn-ysgol.
I fabanod, mae cymorth i rieni a theuluoedd ynghylch bwydo ar y fron a symud i fwydydd solet. Ar gyfer plant hŷn ceir cyngor a syniadau ynghylch chwarae yn yr awyr agored, cyfyngu amser sgrin a rhoi byrbrydau iach.
Meddai Ilona Johnson, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus “mae p'un a yw plentyn yn bwysau iach yn cael ei ddylanwadu gan amrywiaeth o ffactorau, sy'n dechrau cyn geni ac yn enwedig ym mlwyddyn gyntaf bywyd. Mae gwefan Pob Plentyn Cymru yn esbonio'r pethau sy'n cael yr effaith fwyaf, y ’10 Cam i Bwysau Iach’, ac yn rhoi cyngor ymarferol i rieni i'w helpu i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i'w plentyn. Rydym yn cydnabod bod costau byw yn ei gwneud yn fwy anodd i deuluoedd gael deupen llinyn ynghyd, mae'n bwysig iawn bod y rhieni hynny sy'n gymwys i gael talebau Cychwyn Iach yn manteisio ar y rhain gan y gallant helpu i dalu am gostau bwyd.”