Mae Cymru wedi dod yn un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ddechrau brechu pobl yn erbyn haint a drosglwyddir yn rhywiol, gonoroea.
Mae'r brechlyn bellach ar gael mewn clinigau iechyd rhywiol i ddynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM) sy’n wynebu risg fawr o gael yr haint ac eraill y mae clinigwr yn asesu eu bod yn wynebu risg fawr.
Daw cyflwyniad y rhaglen, a ddechreuodd ym mis Gorffennaf, yn sgil ymchwil sy'n dangos y gall y brechiad meningococol B presennol ddarparu amddiffyniad hyd at 40 y cant i bobl yn erbyn gonoroea.
Mae achosion o gonorea a ganfuwyd bron ar eu lefelau uchaf erioed yng Nghymru ac mae pryder ynghylch cyfraddau cynyddol o straeniau'r clefyd sy'n gwrthsefyll gwrthfiotigau.
Dywedodd Dr Giri Shankar, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae cyflwyno’r rhaglen frechu hon yn gam pwysig tuag at leihau lledaeniad haint sy’n dod yn fwyfwy anodd ei drin.
“Wrth i ffurfiau o gonorea sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau ddod i’r amlwg, mae atal haint trwy frechu a defnyddio condomau’n gyson yn gynyddol bwysig.
“Dylai unrhyw un sy’n meddwl y gallent fod yn gymwys, yn enwedig dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion, gysylltu â’u clinig iechyd rhywiol lleol i drefnu apwyntiad.
Er bod data diweddar yn dangos gostyngiad yn nifer yr achosion, mae heintiau a ganfuwyd yn parhau i fod bron ar eu lefelau uchaf erioed yng Nghymru. Mae tueddiadau diweddar yn dangos cynnydd sylweddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn enwedig ers y pandemig COVID-19. Yn 2023, cafodd 5,336 o bobl ddiagnosis o gonoroea, o gymharu â dim ond 973 yn 2015.
Gall unigolion ddod o hyd i'w clinig iechyd rhywiol agosaf ar-lein yn GIG 111 Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am frechu yn erbyn gonoroea ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.