Neidio i'r prif gynnwy

Recriwtio Is-gadeirydd (Cyfarwyddwr Anweithredol) newydd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cyhoeddwyd: 27 Hydref 2022

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ceisio penodi Is-gadeirydd (Cyfarwyddwr Anweithredol) newydd, i ymuno â Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r Sefydliad Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru ac mae'n chwarae rhan hanfodol wrth ysgogi gwelliannau yn iechyd a llesiant y boblogaeth. Ein nod yw lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi'r gwaith o ddatblygu iechyd ledled Cymru.

Mae hon yn adeg gyffrous i'r sefydliad wrth iddo fynd ati i ddiwygio a gweithredu strategaeth hirdymor newydd. Mae ein Strategaeth Hirdymor yn nodi sut y byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion, arbenigedd ac adnoddau ar y cyd i gyflawni dyfodol iachach i Gymru drwy ein saith blaenoriaeth strategol allweddol sydd wedi'u cysylltu'n gynhenid.

Bydd y cyfle hwn yn gofyn am rywun sy'n gallu defnyddio ei brofiad a'i sgiliau personol i gyfrannu at ei weledigaeth ar gyfer: Gweithio i gyflawni dyfodol iachach i Gymru.

 

Gwybodaeth am y rôl

Penodi Is-gadeirydd (Cyfarwyddwr Anweithredol)

A chithau'n Is-gadeirydd, byddwch yn parhau i weithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, gan ddatblygu perthnasoedd allweddol fel y'u cefnogir gan y Cadeirydd presennol ac aelodau eraill y Bwrdd. Byddwch yn sicrhau bod barn defnyddwyr gwasanaethau a staff yn ogystal â phartneriaid arbenigol a phartneriaid sydd â diddordeb eraill yn cymryd rhan lawn wrth helpu i lunio, datblygu a gwella gwasanaethau.

Mae'r Is-gadeirydd yn bartner cyfartal ar y Bwrdd gyda'i gydweithwyr Anweithredol a Gweithredol ac mae'n ofynnol chwarae rhan lawn yn llywodraethu'r sefydliad ar draws pob maes o'i weithgarwch, yn glinigol ac yn gorfforaethol.

Bydd eich cyfraniad at waith y Bwrdd, yn seiliedig ar eich annibyniaeth, profiad, gwybodaeth, a'ch gallu i sefyll yn ôl o'r rheolaeth weithredol o ddydd i ddydd.

Bydd disgwyl i chi ddod â barn annibynnol i'r Bwrdd ar faterion perfformiad, penodiadau allweddol, edrych ymlaen ac atebolrwydd.  A chithau'n Is-gadeirydd, bydd angen i chi hefyd gyfrannu at yr holl benderfyniadau a wneir gan y Bwrdd a derbyn cyfrifoldeb corfforaethol am hyn, fel y mae'r Cyfarwyddwyr Anweithredol a'r Cyfarwyddwyr Gweithredol.

 

Gellir gweld rhagor o fanylion am y rôl a sut i wneud cais isod ac ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

Ynglŷn â'r Bwrdd

Mae Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys ein Cadeirydd Jan Williams OBE, yr Is-gadeirydd presennol Kate Eden (tymor yn gorffen mis Mawrth 2023) a chwe Chyfarwyddwr Anweithredol a chwe Chyfarwyddwr Gweithredol arall. Ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am ein Bwrdd a'n Tîm Gweithredol - Iechyd Cyhoeddus Cymru.
 

Gwneud Cais am Rôl Is-gadeirydd

 

Cliciwch i weld y pecyn ymgeisydd Is-gadeirydd.

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 14 Tachwedd 2022
                       Dyddiad y cyfweliad:   7 Rhagfyr 2022

 

I gael trafodaeth anffurfiol, ffoniwch Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd: 07711 819665.