Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am benodi dwy rôl Cyfarwyddwr Anweithredol newydd, i ymuno â Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Fel gyfarwyddwr anweithredol, byddwch yn defnyddio eich sgiliau a'ch profiad i wneud cyfraniad at ein gweledigaeth Gweithio i Gyflawni Dyfodol Iachach i Gymru.
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yng Nghymru. Ei ddiben yw Gweithio i sicrhau dyfodol iachach i Gymru’ ac, wrth gyflawni hyn, mae’n chwarae rhan ganolog wrth ysgogi gwelliannau yn iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, amddiffyn y cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.
Mae’r Strategaeth Hirdymor yn nodi sut y byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion, ein harbenigedd a’n hadnoddau ar y cyd i sicrhau dyfodol mwy iach i Gymru drwy ein saith blaenoriaeth strategol allweddol sydd â chysylltiadau cynhenid. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach nag erioed bellach wrth i ni barhau i ymateb i, mesur a dysgu o’r effaith y mae pandemig y Coronafeirws (COVID-19) yn ei chael, ac y bydd yn parhau i’w chael, ar bobl Cymru, y Deyrnas Unedig yn ehangach. ac yn rhyngwladol.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth i ni gychwyn ar Strategaeth Hirdymor newydd ac mae’n gyfle gwych i ddefnyddio’ch sgiliau a’ch profiad i gyfrannu at ein gweledigaeth ‘Gweithio i gyflawni dyfodol iachach i Gymru’.
Ceir manylion am y rolau isod a gellir hefyd eu gweld ar wefan Llywodraeth Cymru lle byddwch hefyd yn dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i wneud cais.
Yn ystyried gwneud cais am un o’r rolau? Y Cyfarwyddwyr Anweithredol presennol Kate Eden a Judi Rhys sy'n rhannu eu rhesymau dros ymuno â bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru a'u diddordebau allweddol.
Mae ein Bwrdd yn cynnwys Cadeirydd, chwe Chyfarwyddwr Anweithredol (a elwir hefyd yn aelodau Annibynnol) a phum Cyfarwyddwr Gweithredol, gan gynnwys y Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog Cyllid. Ein Cadeirydd yw Jan Williams OBE. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein Bwrdd a'n tîm Gweithredol
Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol (Data a Digidol)
Mae’n debygol y bydd gennych, neu y byddwch wedi cael, profiad sylweddol o weithio/wedi gweithio ar lefel uwch mewn amgylchedd Digidol a Data. Mae eich dealltwriaeth a’ch gwerthfawrogiad o faterion sy’n ymwneud ag iechyd y boblogaeth yng Nghymru a sut y gallwn fanteisio’n well ar atebion digidol a’r defnydd o ddata yn y cyd-destun hwn, fel rhan o’r system iechyd a gofal ehangach, yn hanfodol. Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn datblygu agenda uchelgeisiol i wneud y mwyaf o’n defnydd ein hunain o gyfleoedd digidol a data ond hefyd y rheini rydym yn eu cyhoeddi ac yn eu rhannu gyda’n partneriaid a’r cyhoedd yng Nghymru. Ein nod yw i hyn helpu i wella ein gwasanaethau ein hunain a gwasanaethau iechyd cyhoeddus ehangach Cymru. Rydym felly yn chwilio am geisiadau gan bobl sydd â gwybodaeth a phrofiad yn y gorffennol neu'r presennol o weithio ar lefel strategol gyda'r agenda digidol a data i ddod â'r persbectif hanfodol hwn i'r Bwrdd.
Pecyn Ymgeisydd Cyfarwyddwr Anweithredol (Digidol a Data)
Cliciwch I wneud cais; Cymraeg / Saesneg
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9 Mai 2022
Dyddiad y cyfweliad: 29 Mehefin 2022
I gael trafodaeth anffurfiol, ffoniwch Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd: 07711 819665.