Cyhoeddwyd: 16 Tachwedd 2021
Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am benodi dwy rôl Cyfarwyddwr Anweithredol newydd, i ymuno â Bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru.
A chithau'n gyfarwyddwr anweithredol, byddwch yn defnyddio eich sgiliau a'ch profiad i wneud cyfraniad at ein gweledigaeth Gweithio i Gyflawni Dyfodol Iachach i Gymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth ysgogi gwelliannau yn iechyd a llesiant y boblogaeth. Ein nod yw lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi'r gwaith o ddatblygu iechyd ledled Cymru.
Mae ein Strategaeth Hirdymor, a gyhoeddwyd gennym yn 2018, yn nodi sut rydym yn bwriadu cyflawni ein nod o sicrhau dyfodol iachach i Gymru. Mae'n nodi ein saith blaenoriaeth strategol i ddangos ein meysydd ffocws allweddol.
Ers 2018 mae ffactorau allanol gan gynnwys y pandemig wedi effeithio ar iechyd cyhoeddus yng Nghymru, sy'n golygu bod angen i ni asesu ein strategaeth bresennol i sicrhau ei bod yn iawn o hyd neu nodi unrhyw newidiadau y mae angen eu gwneud.
Mae hyn yn golygu y byddwch yn ymuno â ni ar adeg gyffrous, wrth i ni fynd ati i ailwerthuso ac yna gweithredu ein strategaeth hirdymor newydd a gwell.
Ceir manylion am y rolau isod a gellir hefyd eu gweld ar wefan Llywodraeth Cymru lle byddwch hefyd yn dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i wneud cais.
Yn ystyried gwneud cais am un o’r rolau? Y Cyfarwyddwyr Anweithredol presennol Kate Eden a Judi Rhys sy'n rhannu eu rhesymau dros ymuno â bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru a'u diddordebau allweddol.
Mae ein Bwrdd yn cynnwys Cadeirydd, chwe Chyfarwyddwr Anweithredol (a elwir hefyd yn aelodau Annibynnol) a phum Cyfarwyddwr Gweithredol, gan gynnwys y Prif Weithredwr a'r Prif Swyddog Cyllid. Ein Cadeirydd yw Jan Williams OBE. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein Bwrdd a'n tîm Gweithredol
Mae'n debygol y bydd gennych brofiad sylweddol o weithio ar lefel uwch mewn amgylchedd Awdurdod Lleol. Mae eich dealltwriaeth a'ch gwerthfawrogiad o faterion sy'n ymwneud ag iechyd y boblogaeth yng Nghymru a rôl awdurdodau lleol yn y cyd-destun hwn, fel rhan o'r system iechyd a gofal ehangach, yn hanfodol. Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer penodi.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio mewn partneriaeth strategol ag awdurdodau lleol ledled Cymru, ac mae'r bartneriaeth hon yn ganolog i gyflawni ein cenhadaeth a'n gweledigaeth i wella iechyd a llesiant pobl Cymru. Mae’n bwysig ein bod yn cynnal cysylltiadau effeithiol ac yn gwneud y mwyaf o'n hymdrechion cyfunol gyda phob awdurdod lleol drwy rwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol.
Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol (Awdurdod Lleol) Candidate Pack - (Saesneg yn unig)
Mae'n debygol bod gennych brofiad sylweddol o weithio ar lefel uwch mewn amgylchedd Trydydd Sector. Mae eich dealltwriaeth a'ch gwerthfawrogiad o faterion sy'n ymwneud ag iechyd yng Nghymru a'r rôl y gall y Trydydd Sector ei chwarae o ran gwella iechyd yng Nghymru, yn y cyd-destun hwn yn hanfodol. Rydym yn chwilio am rywun sy'n gallu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer penodi.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio mewn partneriaeth strategol â sefydliadau'r Trydydd Sector ledled Cymru, ac mae'r bartneriaeth hon yn hanfodol i gyflawni ein cenhadaeth a'n gweledigaeth i wella iechyd a llesiant pobl Cymru. Mae’n bwysig ein bod yn cynnal cysylltiadau effeithiol ac yn gwneud y mwyaf o'n hymdrechion cyfunol gyda phob corff Trydydd Sector a sefydliadau ambarél.
Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol (y Trydydd Sector) Candidate Pack (Saesneg yn unig)
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 3 Rhagfyr 2021
Dyddiad y cyfweliad: 11 neu 12 Ionawr
I gael trafodaeth anffurfiol, ffoniwch Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd: 07711 819665.