Neidio i'r prif gynnwy

Pydredd dannedd mewn plant ifanc yng Nghymru yn parhau i ostwng, ond anghydraddoldebau'n parhau

Cyhoeddwyd: 23 Chwefror 2026

Mae canfyddiadau newydd gan Raglen Epidemioleg Deintyddol GIG Cymru yn dangos bod iechyd y geg mewn plant Blwyddyn Ysgol Un yng Nghymru yn parhau i wella, gyda llai yn profi pydredd dannedd nag yn y blynyddoedd blaenorol. 

Archwiliodd arolwg diweddaraf y Rhaglen Epidemiolegol Deintyddol, a gynhaliwyd yn ystod blwyddyn academaidd 2024 i 2025, ddannedd 8,526 o blant ledled Cymru. Cydlynwyd yr arolygiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth ag Uned Gwybodaeth Iechyd Geneuol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ac fe’i cynhaliwyd gan dimau'r Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol ym mhob Bwrdd Iechyd. 

Mae'r canlyniadau'n dangos bod ychydig dros 27 y cant o blant wedi cael profiad o bydredd dannedd. Mae hwn yn ostyngiad ystadegol arwyddocaol o'i gymharu â 32.4 y cant yn 2022 i 2023 ac mae'n parhau â'r duedd hirdymor ar i lawr a welwyd er 2007 i 2008. Golyga hyn, mewn dosbarth cyfartalog o 30 o blant, fod gan wyth o blant bydredd dannedd o gymharu â 14 yn 2007/08. Fodd bynnag, pan fydd gan blant bydredd dannedd, effeithir ar nifer lluosog o ddannedd, yn ôl y canfyddiadau (3.51) 

Mae pydredd dannedd yn parhau i gael effaith wirioneddol ar fywydau beunyddiol plant. Adroddodd rhieni a gofalwyr fod bron i un o bob pedwar plentyn â phydredd dannedd wedi profi poen deintyddol yn y flwyddyn flaenorol. At ei gilydd, nododd 17.7 y cant o rieni fod iechyd y geg eu plentyn wedi cael effaith negyddol ar ansawdd ei bywyd, gan godi i bron i 39 y cant ymhlith plant â phydredd dannedd. 

Er gwaethaf gwelliannau ar lefel genedlaethol, mae anghydraddoldebau sylweddol yn parhau. Roedd dannedd y plant a oedd yn byw mewn cymunedau difreintiedig yn dal i fod yn fwy tebygol o brofi pydredd. Roedd hefyd yn fwy tebygol yr effeithid ar fwy o ddannedd y plant hyn nag ar ddannedd y rhai a oedd yn byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. Nid yw'r bwlch hwn rhwng y cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig wedi newid yn sylweddol dros amser. 

Mae'r canfyddiadau'n atgyfnerthu pwysigrwydd rhaglenni atal fel y Cynllun Gwên, sy'n cefnogi brwsio dannedd dan oruchwyliaeth, rhoi farnais fflworid ac addysg iechyd y geg mewn meithrinfeydd ac ysgolion ledled Cymru. 

Dywedodd Paul Brocklehurst, Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Mae’n galonogol iawn gweld gostyngiadau parhaus yn nifer y plant yr effeithir arnynt gan bydredd dannedd a difrifoldeb cyffredinol y clefyd. Dyma gyflawniad sylweddol ym maes iechyd y cyhoedd. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod gormod o blant, yn enwedig y rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig, yn dal i brofi clefydau deintyddol y gellir eu hatal. 

“Mae rhoi arferion da ar waith yn gynnar mewn bywyd yn hanfodol. Mae deiet nad yw'n cynnwys llawer o siwgr, brwsio dannedd ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid sy'n briodol i'w hoedran, a mynd i’r deintydd yn rheolaidd yn rhoi'r dechrau gorau posibl i blant. Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos pam mae buddsoddiad parhaus mewn atal a chymorth wedi'i dargedu i deuluoedd sydd ei angen fwyaf yn parhau i fod mor bwysig.” 

Mae Rhaglen Epidemioleg Deintyddol GIG Cymru yn rhoi gwybodaeth hanfodol i gefnogi cynllunio gwasanaethau, gwerthuso a gweithgarwch atal ledled Cymru.  

Cyhoeddir adroddiad llawn yr Arolygiad Epidemiolegol Deintyddol am Flwyddyn 1 ar gyfer 2024 i 2025 gan Brifysgol Caerdydd ar ran y rhaglen. 

Adroddiad

Iechyd y geg ymhlith plant 5 oed yng Nghymru 2024/25