13 Mai 2024
Bydd angen i tua 2,000 yn llai o fenywod yng Nghymru gael pigiad gwrth-D yn ystod eu beichiogrwydd, diolch i raglen brofi DNA di-gell y ffetws newydd sy'n cael ei lansio heddiw.
Hyd yn hyn, mae pob menyw â grŵp gwaed RhD negatif (a elwid gynt yn Rhesws negatif) wedi cael cynnig pigiad gwrth-D i atal Clefyd Haemolytig y Ffetws a’r Babi Newydd-anedig (HDFN) – a elwir hefyd yn glefyd Rhesws.
Bydd cyflwyno prawf gwaed syml i'r llwybr sgrinio yn cael ei gynnig i'r holl fenywod RhD negatif nad oes ganddynt wrthgyrff yn eu gwaed. Gellir cynnig hyn ar tua 16eg wythnos o feichiogrwydd, a gall ragweld yn gywir y math o waed sydd gan y babi. Mae hyn yn golygu y gellir targedu'r pigiad gwrth-D yn gywir at y menywod hynny sydd ei angen.
Mae HDFN yn gyflwr a all ddigwydd pan fydd gan fam waed RhD negatif ac mae gan y babi yn ei chroth waed RhD positif. Gall achosi canlyniadau difrifol ond mae'n brin oherwydd bod menywod sydd â gwaed RhD negatif yn cael cynnig pigiadau meddyginiaeth o'r enw imiwnoglobwlin gwrth-D.
Meddai Sarah Fox, Pennaeth Rhaglen Sgrinio Cyn Geni Cymru: “Mae'r prawf gwaed newydd hwn yn golygu ein bod yn gallu rhagweld grŵp gwaed babi yn y groth, ac felly dim ond y menywod hynny y rhagwelir y bydd eu babanod yn RhD positif fydd yn gorfod cael y pigiad hwn.
“Mae cyflwyno'r prawf hwn yn dilyn argymhelliad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE). Mae'n golygu y gall menywod bellach wneud dewis gwybodus a gallwn leihau'r defnydd diangen o'r driniaeth hon mewn menywod beichiog, yn ogystal â sicrhau bod cyflenwadau imiwnoglobwlin gwrth-D yn cael eu cadw ar gyfer y rhai sydd ei angen fwyaf.”
Ceir rhagor o wybodaeth am HDFN ar wefan GIG 111 Cymru.