Neidio i'r prif gynnwy

Practis deintyddol yn arwain y ffordd mewn gofal iechyd cynaliadwy drwy Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

“Mae pobl mewn gofal sylfaenol yn dangos arweinyddiaeth wrth ymateb i newid hinsawdd, sef yr hyn sydd efallai’n her iechyd y cyhoedd fwyaf ein hoes.” Keith Reed, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol

Newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf i iechyd dynol yn yr 21ain ganrif. Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw bod yn “fwy gwyrdd”, ond weithiau mae’n anodd gwybod ble i ddechrau a sut i roi hynny ar waith.

Mae un practis deintyddol yng Nghymru yn arwain y ffordd ac yn gobeithio ysbrydoli eraill ar ôl iddo gael ei enwi yn enillydd cyntaf Gwobr Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yng Ngwobrau Cynaliadwyedd GIG Cymru yn ddiweddar. Mae Practis Deintyddol Gwauncaegurwen yn Rhydaman yn dathlu cynnydd sylweddol mewn gofal iechyd cynaliadwy ar ôl cymryd rhan yn Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru. Mae hyn yn dangos sut y gall newidiadau gweithredol bach gael effaith amgylcheddol ystyrlon heb beryglu gofal cleifion.

Mae'r practis wedi trawsnewid ei thaith i'r claf drwy ymgorffori camau gweithredu gwyrddach yn ystod pob cam o'r ymweliad.

Mae cynaliadwyedd yn cael lle blaenllaw o'r eiliad y mae'r claf yn cyrraedd. Yn lle ffurflenni papur, mae cleifion bellach yn cofrestru ac yn cwblhau dogfennaeth ar iPad, gan leihau gwastraff papur a symleiddio gweinyddiaeth. Yn yr ystafell driniaeth, mae clinigwyr yn defnyddio technoleg sganio ddigidol yn lle argraffiadau traddodiadol, sy’n dileu'r angen am ddeunyddiau i greu argraffiadau, pecynnu a phostio.

Mae'r practis hefyd wedi ailgynllunio amserlennu apwyntiadau i leihau teithio diangen. Mae cleifion yn cael archwiliad rheolaidd ac apwyntiad hylendid ar yr un diwrnod, trefn y mae'r tîm yn dweud sydd wedi cael croeso mawr.

Dywedodd Yvette Powey, Deintydd ac Arweinydd Cynaliadwyedd: “Rydym wedi canfod bod Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn rhoi strwythur clir i ni i wneud newidiadau sydd wir yn gweithio i’r amgylchedd a’n cleifion. Fe helpodd ni i nodi buddion buan, fel cyfuno apwyntiadau, a oedd yn lleihau ein hôl troed carbon yn syth.”

Yn ystod triniaethau, mae'r tîm bellach yn defnyddio blaenau sugno y gellir eu hailddefnyddio, cwpanau dur di-staen, ac offer golchadwy arall, gan leihau’r defnydd o blastigau untro yn sylweddol. Mae'r practis hefyd wedi mabwysiadu system ailgylchu newydd.

“Mae’r fframwaith wedi grymuso ein tîm cyfan,” ychwanegodd Yvette Powe, “Mae wedi dangos i ni nad yw deintyddiaeth gynaliadwy yn ymwneud â newidiadau mawr, dramatig, mae’n ymwneud â chamau gofalus, bob dydd sydd gyda’i gilydd yn gwneud gwahaniaeth.”

Mae Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru yn parhau i gefnogi darparwyr gofal sylfaenol ledled Cymru i leihau effaith amgylcheddol, gwella effeithlonrwydd a darparu gofal sy'n cefnogi planed iachach.

Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru

Ffurfiwyd y fframwaith yn benodol oherwydd bod gofal sylfaenol angen offer ymarferol, y gellid eu rhoi ar waith i leihau ei effaith amgylcheddol. Mae'n darparu camau gweithredu strwythuredig sy’n cwmpasu gwastraff, ynni, teithio, rhagnodi, caffael a newid diwylliant.

Mae'n helpu trwy wneud y canlynol:

  • Rhoi map i bractisiau i fynd i’r afael â chynaliadwyedd, ac yn ateb y cwestiwn: “Beth allwn ni ei wneud yn ein practis?”
  • Cefnogi pob contractwr gofal sylfaenol — meddygon teulu, deintyddion, fferyllfeydd cymunedol a phractisiau optometreg — i ymgorffori camau gweithredu gwyrddach yn eu gweithrediadau dyddiol.
  • Mae cynnig gwobrau Efydd, Arian ac Aur yn ysgogi gwelliant parhaus.
  • Darparu canllawiau penodol i Gymru, gan lenwi'r bwlch a adawyd gan gynlluniau datgarboneiddio cenedlaethol lefel uchel oedd ddim yn cynnig offer gofal sylfaenol ymarferol.

Effeithiau:

Mae'r fframwaith eisoes yn dangos ymgysylltiad a momentwm cryf:

  • Ers ei lansio yn 2022, mae Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru wedi cefnogi dros 400 o bractisiau meddygon teulu, practisiau deintyddol, fferyllfeydd cymunedol a gwasanaethau optometreg i leihau allyriadau carbon, torri gwastraff ac ymgorffori meddwl gwyrddach mewn gofal rheolaidd.
  • Mae wedi dod yn rhaglen genedlaethol sydd wedi ennill gwobrau, ac sy’n codi ymwybyddiaeth ac yn adeiladu cymuned o “Hyrwyddwyr Gwyrddach” ledled Cymru.
  • Mae'n helpu practisiau i gymryd camau sy'n cefnogi uchelgeisiau sero net Cymru ar y cyd, gan wneud gofal sylfaenol yn gyfrannwr allweddol at nodau hinsawdd cenedlaethol.


Gallwch ddysgu rhagor am y Fframwaith Gofal Sylfaenol Gwyrddach yma.