Cyhoeddig: 21 Rhagfyr 2023
Mae pobl sy'n gymwys i dderbyn brechlynnau salwch anadlol y gaeaf yn cael eu hannog i ddod ymlaen ar ôl i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi data yn dangos bod achosion o ffliw a gofnodwyd wedi mwy na dyblygu yn ystod y tair wythnos diwethaf.
Mae'r data diweddaraf yn dangos cynnydd sylweddol mewn profion positif am ffliw yng Nghymru, gan godi o 2.4 y cant yn yr wythnos a ddaeth i ben 27 Tachwedd i 4.4 y cant yn yr wythnos a ddaeth i ben 11 Rhagfyr. Mae Adroddiad Gwyliadwriaeth Ffliw a Heintiau Anadlol Acíwt Wythnosol Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn dangos bod canran y galwadau sy'n gysylltiedig â ffliw i GIG 111 Cymru wedi cynyddu i 21.2 y cant, i fyny o 18.7 y cant yn yr wythnos flaenorol.
Meddai Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae ein data yn dangos cynnydd pryderus yn nifer yr achosion o ffliw yn y boblogaeth mewn cyfnod cymharol fyr o amser, gyda phatrymau tebyg wedi'u nodi yn Lloegr.
“Gall ffliw fod yn salwch difrifol ac mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gweithredu i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae'n hysbys mai cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag y ffliw. Gyda ffliw a Covid-19 yn mynd ar led y gaeaf hwn, mae'n hanfodol bod pawb sy'n gymwys yn cael y ddau frechlyn cyn gynted â phosibl.
“Mae sgil-effeithiau brechiadau fel arfer yn ysgafn ac nid ydynt yn para'n hir. Mae'r siawns o fynd yn ddifrifol wael gyda Covid-19 neu'r ffliw yn cael ei lleihau'n fawr drwy frechu, ac mae'r risgiau o ledaenu'r feirysau hyn yn lleihau hefyd.”
Ni fu erioed yn haws cael eich amddiffyn yn erbyn salwch anadlol cyffredin y gaeaf gyda chlinigau cerdded i mewn bellach ar gael. Gall pobl fynd i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ganfod a ydynt yn gymwys a sut i gael eu brechu yn lleol.
Mae'r rhai sy'n gymwys i gael brechiad ffliw yn cynnwys: