Neidio i'r prif gynnwy

Pobl Cymru yn cefnogi cymorth cryfach i iechyd a llesiant menywod ar ôl beichiogrwydd

Cyhoeddwyd: 11 Chwefror 2026

Mae canfyddiadau newydd o arolwg Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos cefnogaeth gyhoeddus gref i ddarparu cymorth iechyd a llesiant i fenywod yn y flwyddyn ar ôl beichiogrwydd. 

At ei gilydd, dywedodd 78 y cant o bobl ei bod hi’n bwysig iawn bod menywod yn derbyn cymorth ar gyfer eu hiechyd a’u llesiant yn y flwyddyn gyntaf ar ôl beichiogrwydd, boed hyn yn dilyn genedigaeth, camesgoriad neu ganlyniadau eraill beichiogrwydd. 

Roedd mwy na hanner yr ymatebwyr (58 y cant) o'r farn mai'r amser gorau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gael sgwrs iechyd a llesiant gyda menywod ar ôl beichiogrwydd fyddai yn ystod apwyntiad pwrpasol a drefnwyd gan y GIG a oedd yn canolbwyntio ar iechyd a llesiant y menywod. Roedd llai o bobl yn teimlo mai'r amser gorau ar gyfer y sgyrsiau hyn fyddai yn ystod apwyntiadau sy'n canolbwyntio ar blant, fel brechiadau (21 y cant), neu yn ystod apwyntiadau y mae menywod wedi’u trefnu i siarad am fater penodol (14 y cant). 

Roedd bron i dri o bob pedwar o bobl (73 y cant) o'r farn y dylai sgyrsiau iechyd ar ôl beichiogrwydd gynnwys cymysgedd o bynciau y cynlluniwyd eu trafod ymlaen llaw a dylai fod yn lle i fenywod drafod yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.  

Dywedodd Bethan Jenkins, y Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae’r canfyddiadau hyn yn adlewyrchu cefnogaeth gyhoeddus gref i gymorth personol, holistaidd yn hytrach na dull cyffredinol. 

“Maen nhw hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd creu lle ar gyfer sgyrsiau ystyrlon am iechyd a llesiant ar yr adeg gywir.” 

Ystyriwyd bod ymwelwyr iechyd yn ffynhonnell allweddol o gefnogaeth i fenywod ar ôl beichiogrwydd, ac roedd 80% o'r ymatebwyr yn dweud y dylent chwarae rhan bwysig wrth gefnogi iechyd a llesiant menywod. Roedd bydwragedd (68 y cant), nyrsys practis (69 y cant) a meddygon teulu (66 y cant) hefyd yn cael eu hystyried gan lawer fel ffynonellau cymorth pwysig, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol eraill yn y gymuned fel fferyllwyr cymunedol.  

Nodwyd bod iechyd meddwl a llesiant yn flaenoriaeth uchel, ac roedd 79 y cant yn dweud y dylai fod yn rhan bwysig iawn o gymorth ar ôl beichiogrwydd. Roedd iechyd corfforol hefyd yn bwysig iawn (69 y cant), ochr yn ochr ag ymddygiadau iach (56 y cant) a llesiant cymdeithasol (54 y cant). 

Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yw panel ymgysylltu â’r cyhoedd cenedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n galluogi trigolion ledled Cymru i rannu eu barn ar faterion iechyd y cyhoedd allweddol a llywio polisi ac ymarfer. 

Cynhaliwyd yr arolwg rhwng 1 Hydref a 4 Tachwedd 2025 ac roedd yn cynnwys 1,418 o bobl 16 oed a hŷn sy'n byw yng Nghymru. Mae data wedi'i bwysoli i boblogaeth Cymru yn seiliedig ar oedran, rhyw a chwintel amddifadedd.  

Am ragor o wybodaeth am Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus, ewch i'n gwefan  neu anfonwch e-bost at dîm Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn talkPHWales@wales.nhs.uk.