Cyhoeddwyd: 2 Chwefror 2022
Mae ymchwil a gyllidwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i gyhoeddi yn BMJ Open yn awgrymu y gall amharodrwydd neu wrthod cael brechiad rhag haint Coronafeirws (petruster brechu), fod yn gysylltiedig â digwyddiadau trawmatig yn ystod plentyndod, fel esgeulustod, trais domestig neu gamddefnyddio sylweddau yn y cartref teuluol.
Nododd ymchwil a gynhaliwyd gydag oedolion yng Nghymru fod petruster brechu deirgwaith yn uwch ymhlith pobl a oedd wedi profi pedwar neu ragor o fathau o drawma yn ystod plentyndod nag ydoedd ymhlith y rhai nad oedd wedi profi unrhyw fath o drawma yn ystod plentyndod.
Dangoswyd bod trallod yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â llesiant meddyliol gwaeth, gyda rhai astudiaethau’n awgrymu y gall arwain at lai o ymddiriedaeth yng ngwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Er mwyn archwilio hyn ymhellach, roedd yr ymchwilwyr am ddarganfod a allai trawma yn ystod plentyndod fod yn gysylltiedig â lefelau o ymddiriedaeth yng ngwybodaeth COVID-19 y GIG; cefnogaeth ar gyfer cyfyngiadau Coronafeirws â chydymffurfio â nhw (fel gorchuddion wyneb gorfodol a chadw pellter cymdeithasol); a’r bwriad i gael brechiad rhag yr haint.
Ond mae'r ymchwilwyr yn nodi ei bod yn hysbys bod pobl sydd wedi profi trawma yn ystod plentyndod “â mwy o risgiau iechyd gydol oes. Mae'r canlyniadau yma yn awgrymu y gall unigolyn o’r fath gael mwy o anhawster yn cydymffurfio â'r mesurau rheoli iechyd cyhoeddus ac o ganlyniad bydd angen cymorth ychwanegol arnynt.”
Maent yn awgrymu bod hyn yn bwysig nid yn unig ar gyfer y pandemig presennol ond ar gyfer argyfyngau iechyd cyhoeddus eraill sy’n codi yn y dyfodol.
Meddai Mark Bellis, awdur a Chyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae angen gwell dealltwriaeth ar frys o sut i gynyddu eu hymddiriedaeth yn systemau iechyd a chydymffurfio â chanllawiau iechyd. Heb ystyried y ffordd orau o ymgysylltu ag unigolion o’r fath, mae risg y bydd rhai yn cael eu heithrio o ymyriadau iechyd y boblogaeth, gan barhau i wynebu risgiau uwch o haint ac y byddant yn peri risg o ran trosglwyddo i eraill.
Gofynnodd yr arolwg am naw math o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE; trawma yn ystod plentyndod) cyn 18 oed: cam-drin corfforol, geiriol a rhywiol; rhieni’n gwahanu; amlygiad i drais domestig; a byw gydag aelod o'r teulu sydd â salwch meddwl, camddefnyddio alcohol a/neu gyffuriau, neu a oedd yn y carchar.
Roedd ymatebwyr a fynegodd ychydig iawn neu ddim ymddiriedaeth yng ngwybodaeth Coronafeirws y GIG ac a oedd yn teimlo eu bod wedi’u cyfyngu’n annheg gan gyfyngiadau COVID-19 y llywodraeth yn fwy tebygol o ffafrio mynd ati ar unwaith i roi terfyn ar reoliadau ar gadw pellter cymdeithasol a gorchuddion wyneb gorfodol. Roeddent hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi diystyru'r rheoliadau'n achlysurol a datgan amharodrwydd i gael pigiad neu ei wrthod.
Mae'r astudiaeth lawn ‘Associations between adverse childhood experiences, attitudes towards COVID-19 restrictions and vaccine hesitancy: a cross-sectional study’ ar gael am ddim yma:
https://bmjopen.bmj.com/lookup/doi/10.1136/bmjopen-2021-053915