Cyhoeddwyd: 4 Ionawr 2023
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio rhieni am beryglon teganau sydd â magnetau bach y Nadolig hwn. Mae'n dilyn achos bachgen ysgol o Dde Cymru a gafodd lawdriniaeth frys ar ôl llyncu 52 o fagnetau o degan llaw.
Mae Jude fel arfer yn blentyn pump oed egnïol, felly dechreuodd ei fam Lynsey bryderu pan ddechreuodd ei mab ddioddef yr hyn yr oedd yn meddwl oedd yn fygiau salwch rheolaidd. Aethant at y meddyg, lle cafodd ddiagnosis o feirws, ond parhaodd y pyliau o salwch am sawl wythnos. Un noson roedd mewn llawer o boen, felly aeth ag ef i'r adran damweiniau ac achosion brys. Ni ddangosodd archwiliad corfforol a phrofion gwaed unrhyw beth abnormal. Ni ddaeth y broblem yn glir tan i'r meddygon sganio stumog Jude a gweld yr hyn roeddent yn ei feddwl oedd yn fwclis. Roedd gan Jude 52 o beli magnetig wedi'u glynu gyda'i gilydd mewn cylch yn ei goluddyn. Yn dilyn hynny cafodd lawdriniaeth frys a barhaodd am 7 awr. Roedd yn rhaid i'r meddygon dorri'r coluddyn mewn pum man oherwydd bod y magnetau wedi cael eu dal. Bu'n rhaid iddynt hefyd dynnu ei bendics gan fod un o'r magnetau wedi ei uno â'i goluddyn.
Roedd wythnos cyn y gallai Jude godi o'r gwely, ond mae ei fam Lynsey yn teimlo rhyddhad mawr ei fod bellach wedi gwella'n dda o'i lawdriniaeth. Mae'n annog rhieni eraill i beidio â phrynu'r teganau hyn o gwbl;
“Yn ffodus, cafodd lawdriniaeth y noson honno neu gallai fod wedi bod yn angheuol. Nid ydych yn disgwyl i rywbeth mor wael ddigwydd o degan plentyn.”
Gall llyncu magnetau bach a batris botwm achosi anafiadau mewnol difrifol os cânt eu llyncu. Gall magnetau lluosog lynu at ei gilydd y tu mewn i stumog plentyn gan arwain at yr angen am lawdriniaeth fawr ar yr abdomen. Mae astudiaethau'n dangos bod plant, mewn tua 40% o achosion, yn llyncu'r eitem heb i unrhyw sylwi. Mewn llawer o achosion efallai na fydd y plentyn yn dangos unrhyw symptomau nac arwyddion clinigol i ddechrau ychwaith.
Meddai Sarah Jones, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol,
“Rydym yn gofyn i rieni feddwl yn ofalus cyn prynu cynnyrch sy'n cynnwys magnetau a batris botwm i'w plant. Nid yw teganau magnet bach yn bethau da i lenwi hosan. Dylent bob amser gael eu storio allan o gyrraedd plant bach. Daw peryglon tebyg o blant yn llyncu batris botwm hefyd. Dylai rhieni sicrhau bod y blwch batri wedi'i gau'n gywir ac yn ddiogel ar bob tegan cyn ei roi i'r plant.”