Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Cyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd a Nyrsio parhaol

Cyhoeddwyd: 12 Awst 2024

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch o gyhoeddi penodiad parhaol Claire Birchall yn Gyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd a Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae hon yn rôl hollbwysig yn y sefydliad sy’n gyfrifol am ddarparu cyfeiriad strategol, arweinyddiaeth a goruchwyliaeth ar gyfer llywodraethu integredig ac ansawdd a gwelliant, a goruchwyliaeth broffesiynol ar gyfer ein nyrsys a bydwragedd.

Mae Claire wedi bod yn Gyfarwyddwr Gweithredol Ansawdd, Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Dros Dro ers mis Medi 2023, ac mae hi eisoes wedi cael effaith enfawr yn ei rôl. 

Mae Claire wedi treulio ei gyrfa gyfan yn gweithio yng Nghymru, sef 30 mlynedd mewn nyrsio arbenigol, nyrsio uwch, arweinyddiaeth a rheolaeth gyffredinol. Mae hi wedi gweithio ar lefel cyfarwyddwr mewn tri o fyrddau iechyd mwyaf Cymru a chyn ymuno â ni, hi oedd arweinydd Rhwydwaith Canser Cymru yng Ngweithrediaeth y GIG.

Ychwanegodd Nick Elliott, Cadeirydd dros dro Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae'r Ddyletswydd Ansawdd a’r Safonau Ansawdd Gofal yn rhan hanfodol o bopeth a wnawn fel sefydliad. Mae Claire eisoes wedi gwneud cyfraniad rhagorol yn y maes hwn ers ymuno â ni fis Medi diwethaf ac felly rwy'n falch iawn o'i chroesawu i'r rôl barhaol. Ar ran y Bwrdd, hoffwn groesawu Claire ac anfon ein llongyfarchiadau ati.”

Meddai Claire:

“Rwy’n falch iawn o allu parhau yn fy rôl yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac am y cyfleoedd niferus sydd o’m blaenau i lunio a llywio cyfeiriad ein sefydliad, yn enwedig gallu dylanwadu ar ein strategaeth drwy lens a chyfraniad gwerthfawr y proffesiynau Nyrsio a Bydwreigiaeth. 

“Mae ansawdd wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud ac rydw i wedi cael fy ysbrydoli llawer gan y tîm yma sydd eisoes wedi dangos bod ganddyn nhw’r hyn sydd ei angen i gyflawni ein gweledigaeth o ddyfodol iachach i Gymru.”