Neidio i'r prif gynnwy

Pedwar o bob pum dyn yn mynychu sgrinio AAA a allai achub bywyd

Mae’r adroddiad blynyddol diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer Rhaglen Sgrinio Ymlediad Aortaidd yn yr Abdomen Cymru (WAAASP) yn dangos bod ymgymeriad sgrinio wedi cynyddu’r llynedd gyda phedwar o bob pum dyn a wahoddwyd yn derbyn y cynnig i gael eu sgrinio. 

Fodd bynnag, ni fynychodd un mewn pump o ddynion cymwys a wahoddwyd i gael prawf ymlediad aortaidd yn yr abdomen (AAA). 

Mae’ r adroddiad y dangos taw, o’r 16,487 o ddynion a wahoddwyd i gael eu sgrinio rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019, mai 13,328 a fynychodd. 

O’r rheiny gafodd eu sgrinio, canfuwyd bod gan 141 o unigolion AAA.

Dywedodd Llywela Wilson, Pennaeth WAAASP:

“Mae AAA yn brin ond gall fod yn angheuol os na chaiff ei ganfod mewn pryd.

“Ni fydd pob AAA yn rhwygo, ond os bydd, mae’r siawns o gyrraedd yr ysbyty a goroesi’r llawdriniaeth yn isel iawn. Amcangyfrifir y bydd tua 85 y cant o bobl ag AAA sy’n rhwygo yn marw, ac y bydd llawer o’r rhain yn marw cyn cyrraedd yr ysbyty.”

Nod sgrinio AAA yw canfod ymchwydd neu chwydd yn yr aorta (prif bibell waed y corff) yn yr abdomen a allai rwygo os na chaiff ei ganfod yn gynnar, a all, mewn llawer o achosion, fod yn angheuol.

Mae dynion 65 oed sydd yn byw yng Nghymru ac wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn cael cynnig prawf sgrinio AAA untro. O 1 Mai 2015, mae dynion dros 65 oed hefyd wedi gallu cysylltu â’r swyddfeydd sgrinio lleol i ofyn am sgrinio.

Mae’r prawf yn cynnwys sgan uwchsain syml a wneir am ddim mewn clinigau cymunedol ar hyd a lled Cymru.  

Yn y cyfnod sydd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad, atgyfeiriwyd 57 o ddynion i wasanaethau fasgwlaidd arbenigol ar ôl cael eu sgrinio. Cafodd pedwar deg naw o ddynion lawdriniaeth agored neu endofasgwlaidd. 

Dewis personol yw cymryd rhan mewn sgrinio AAA. Mae taflen wybodaeth a thudalen ar y we ar gael i helpu dynion cymwys i benderfynu a ddylent gael y prawf.

Mae Adroddiad Blynyddol llawn 2018-19 WAAASP ar gael i’w lawrlwytho ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Adroddiad

Adroddiad Ystadegol Blynyddol Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdoenol Cymru 2018-19