Cyhoeddwyd: 19 Mehefin 2023
Mae ymchwilwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi cyfres o friffiau i drafod beth sydd angen ei wneud i greu tai iachach yng Nghymru.
Byddant yn defnyddio dealltwriaeth o sut beth yw tai “da”, ynghyd â thystiolaeth o brofiadau byw pobl, i nodi camau gweithredu i gyflawni gweledigaeth a rennir ar gyfer dyfodol tai iach.
Mae toreth o dystiolaeth bod cysylltiad cryf rhwng tai ac iechyd: mae cael lle sefydlog, cynnes, o ansawdd da i fyw yn floc adeiladu allweddol ar gyfer bywyd iach. Mae ein hymchwil yn dangos bod yn rhaid i gymdeithas gael yr hanfodion yn iawn, ond rhaid iddi hefyd fynd y tu hwnt i hyn a chydnabod yr ehangder llawn o ffyrdd y gall cartrefi effeithio ar ein hiechyd a'n llesiant yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol i gyflawni'r weledigaeth o gartrefi iachach.
Siaradodd ymchwilwyr â'r rhai sydd â phrofiad byw o sefyllfaoedd tai gwahanol a chafwyd bod ffactorau fel ansawdd, fforddiadwyedd a diogelwch tai yn ogystal â'r gymuned leol a'r seilwaith i gyd yn effeithio ar eu hiechyd meddwl a chorfforol. Nid oedd y themâu hyn yn cael eu profi ar wahân, roedd pob thema yn rhyngweithio â'r lleill ac yn eu gwaethygu. Er enghraifft, roedd fforddiadwyedd biliau ynni yn golygu bod cyfranogwyr yn newid eu hymddygiad o ran gwresogi eu cartrefi. Roedd byw mewn cartrefi oer yn niweidio iechyd corfforol cyfranogwyr, ac yn effeithio ar ansawdd eu cartrefi, oherwydd mwy o leithder. Roedd ansawdd cartrefi sy'n gwaethygu wedyn yn effeithio ar eu cyflyrau iechyd corfforol a'u problemau iechyd meddwl, gan greu cylch dieflig.
Meddai'r Uwch Swyddog Polisi yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Manon Roberts:
“Mae'r tueddiadau allweddol a fydd yn llywio dyfodol tai iach yn cynnwys cynnydd mewn gweithio gartref, cynnydd o ran costau byw, poblogaeth sy'n heneiddio, anghydraddoldebau cynyddol a newid hinsawdd. Ar y cyfan, roedd y cyfranogwyr yn ein hastudiaeth yn teimlo y byddai cael mwy o arian yn gwella eu problemau tai. Roedd cael ymdeimlad o reolaeth a dewis dros eu cartrefi hefyd yn ysgogwr cadarnhaol allweddol o ran iechyd a llesiant”.
Mae'r gyfres o friffiau yn ceisio hwyluso gwell cartrefi drwy dynnu sylw at gamau penodol y gall rhanddeiliaid gwahanol eu cymryd. Bydd y briffio rhagarweiniol a gyhoeddir yr haf hwn yn cael ei ddilyn gan ragor o friffiau gyda themâu penodol, gan ddechrau gyda Tai Fforddiadwy ar gyfer Iechyd a Llesiant. Bydd y camau gweithredu a amlinellir yn y briffiau yn berthnasol ar gyfer amrywiaeth eang o randdeiliaid yn y sector tai.