Neidio i'r prif gynnwy

Offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd wedi'i ddiweddaru gyda'r data diweddaraf

Cyhoeddwyd: 3 Hydref 2024

Wedi'i gyhoeddi gyntaf ym mis Mawrth 2016, diben y Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus yw helpu i ddeall yr effaith y mae ymddygiad unigol, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau yn eu cael ar iechyd a llesiant yng Nghymru.  

Yn y fersiwn hon mae'r dangosyddion canlynol wedi'u diweddaru: pwysau geni isel, bwydo ar y fron, cyfraddau brechu yn bedair oed, a bylchau cyflogaeth.

Pwysau geni isel: 

Ledled Cymru, mae canran y babanod sy'n pwyso o dan 2.5kg adeg eu geni yn codi, gyda ffigur 2023, sef 6.2 y cant, yn ystadegol arwyddocaol uwch na 5.5 y cant yn 2013. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 12.6 y cant. 

Wrth ei ddadansoddi yn ôl amddifadedd, dim ond y pumed â'r amddifadedd mwyaf sy'n dangos gwahaniaeth sylweddol rhwng 2013 a 2023 (gan gynyddu o 6.5 y cant i 8.3 y cant, sy'n cyfateb i gynnydd o 26.5 y cant). Mewn cymhariaeth, cafodd 4.8 y cant o fabanod yn y pumed â'r amddifadedd lleiaf eu geni yn pwyso llai na 2.5kg. 

Bwydo ar y fron:  

Yn 2023, dim ond 28.4 y cant o blant yng Nghymru yn y pumed â'r amddifadedd mwyaf oedd yn cael eu bwydo ar y fron yn unig ar 10 diwrnod, o gymharu â 48.2 y cant yn y pumed â'r amddifadedd lleiaf. Mae'r ganran ar draws awdurdodau lleol yn amrywio o 23.4 y cant i 49.1 y cant. Mae'n werth nodi bod y cyfyngau hyder ar gyfer y data yn eithaf mawr (gan gyrraedd hyd at 9.2 y cant rhwng y terfynau isaf ac uchaf). 

Brechiadau:  

Mae canran y plant sydd wedi cael eu brechiadau diweddaraf pan fyddant yn 4 oed yn parhau'n gyson ar 84.3 y cant yn 2023 o gymharu ag 88.0 y cant yn 2019/20; mae hyn yn debyg i'r lefelau cyn y pandemig. Mae hyn yn is na tharged Sefydliad Iechyd y Byd, sef 95 y cant (er nad yw hwn yn darged sy'n benodol i oedran). 

Bwlch cyflogaeth: 

Y bwlch yn y gyfradd gyflogaeth rhwng Cymru gyfan a'r rhai â chyflwr iechyd hirdymor oedd 12.2 y cant yn 2023. Nid yw'r ffigur yn debyg i flynyddoedd blaenorol oherwydd newidiadau i fethodoleg yr arolwg; fodd bynnag, nid yw'n sylweddol wahanol i ffigur Lloegr 2022/23, sef 10.4 y cant (Fingertips | Department of Health and Social Care (phe.org.uk)). 

Mae'r Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus yn cael ei lunio ar ran Llywodraeth Cymru a chafodd ei ddatblygu yng nghyd-destun strategaethau a fframweithiau cenedlaethol eraill sy'n ceisio ysbrydoli a llywio camau gweithredu i wella iechyd y genedl. Yn benodol, mae'n sail i'r dangosyddion cenedlaethol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy ddarparu amrywiaeth manylach o fesurau sy'n adlewyrchu'r penderfynyddion ehangach sy'n dylanwadu ar iechyd a llesiant.