Cyhoeddwyd: 12 Mawrth 2025
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adnewyddu’r dangosyddion yn offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.
Diben Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd, a gafodd ei gyhoeddi gyntaf ym mis Mawrth 2016, yw helpu i ddeall yr effaith y mae ymddygiadau unigol, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau yn ei chael ar iechyd a llesiant yng Nghymru.
Yn yr iteriad hwn mae’r dangosyddion canlynol wedi’u diweddaru: Pydredd dannedd ymhlith plant pump oed, ansawdd yr aer rydym yn ei anadlu, disgwyliad oes iach, gwybodaeth o arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion 2023, dangosyddion marwolaethau a thoriadau clun ymhlith pobl hŷn.
Pydredd dannedd ymhlith plant pump oed
- Yn gyffredinol yng Nghymru, mae nifer cymedrig y dannedd sydd ar goll, wedi pydru neu wedi’u llenwi wedi gostwng o 1.9 i 1.1 rhwng 2007/8 a 2022/23. Fodd bynnag, mae'r bwlch rhwng y rhai lleiaf a'r rhai mwyaf difreintiedig wedi parhau'n debyg.
Ansawdd yr aer rydyn ni'n ei anadlu
- Er y cynnydd bach yng nghrynodiad y llygryddion (NO2) yn yr aer rhwng 2020 a 2022, yn gyffredinol, mae crynodiad y llygryddion aer wedi aros yn is na'r lefelau cyn-bandemig (2019).
Disgwyliad Oes Iach
- Ers cyn y pandemig COVID (2017-19), mae disgwyliad oes iach adeg geni (HLE) wedi gostwng 2.2 mlynedd ymhlith merched ac 1.1 mlynedd ymhlith dynion. Y ffigurau HLE diweddaraf yw 59.6 o flynyddoedd ymhlith menywod, o’u cymharu â 60.3 o flynyddoedd ymhlith dynion.
- Yn 2021-23, roedd disgwyliad oes ar enedigaeth yn 82.0 mlynedd ymhlith merched a 78.1 o flynyddoedd ymhlith dynion. Nid yw’r ffigurau hyn wedi newid fawr ddim yng Nghymru ers 2010-12, er gwaethaf gostyngiad bach yn ystod cyfnod pandemig COVID.
Gwybodaeth o arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion 2023
- Mae gwahaniaeth arwyddocaol rhwng canran y bechgyn a merched a oedd yn gorfforol weithgar bob dydd, sef 22.8 y cant a 13.7 y cant yn y drefn honno.
- Mae canran y plant sy’n byw ar aelwydydd cefnog iawn a oedd yn cymryd rhan mewn ymarfer corff bob dydd yn 20.4 y cant, a 15.3 oedd y canran ar gyfer yr aelwydydd isel eu cyfoeth.
- Roedd cyfraddau ysmygu’n uwch ymhlith y glasoed o gartrefi â llai o gyfoeth o’u cymharu â mwy o gyfoeth (4.0 y cant o’i gymharu â 2.1 y cant). Er bod yfed alcohol yn fwy cyffredin mewn cartrefi â mwy o gyfoeth (37.6 y cant yn erbyn 34.4 y cant).
Dangosyddion marwolaethau (marwolaethau cynamserol o glefydau anhrosglwyddadwy, marwolaethau o anafiadau traffig ffyrdd, marwolaethau o anafiadau, hunanladdiadau)
- Mae mwy na dwywaith y nifer o farwolaethau cynamserol oherwydd clefydau anhrosglwyddadwy yn digwydd yn y pumed mwyaf difreintiedig o’i gymharu â’r pumed lleiaf difreintiedig (489 o’i gymharu â 198).
- Mae marwolaethau oherwydd anafiadau fesul 100,000 o bobl wedi cynyddu o gyfradd o 40.4 yn 2019-21 i 48.9 yn 2021-23. Mae hyn wedi’i ysgogi’n bennaf gan gynnydd yn nifer y cwympiadau damweiniol (codau ICD W00-W19) yn y boblogaeth 65+ oed.
- Mae'r gwahaniaeth yn y gyfradd marwolaethau oherwydd anafiadau rhwng y pumedau mwyaf a lleiaf difreintiedig yn parhau i gynyddu dros amser.
- Mae’r gyfradd marwolaethau oherwydd digwyddiadau traffig ar y ffyrdd fesul 100,000 bron 4 gwaith yn uwch ymhlith dynion na menywod (1.3 o’i chymharu â 4.9).
- Mae cyfradd y marwolaethau o hunanladdiadau a gadarnhawyd yn y pumed mwyaf difreintiedig bron i ddwbl cyfradd y rhai yn y pumed lleiaf difreintiedig (8.3 o’i chymharu â 16.1).
- Mae cyfradd y marwolaethau o hunanladdiad a gadarnhawyd fesul 100,000 yn parhau i fod yn uwch ar gyfer dynion na menywod: dros deirgwaith yn uwch yn y cyfnod 2019-23 (19.7 y cant o’i chymharu â 5.7 y cant yn y drefn honno). Er bod gwahaniaeth amlwg yn y gyfradd marwolaethau oherwydd hunanladdiad rhwng dynion a menywod, ni welir yr un patrwm yn y cyfraddau yr adroddwyd arnynt o’r achosion o geisio cyflawni hunanladdiad (gweler A cross-national study on gender differences in suicide intent | BMC Psychiatry | Full Text; ResearchBriefingGenderSuicide_2021_v7.pdf).
Toriadau clun ymhlith pobl hŷn
- Mae cyflawnder y codio diagnostig o ran derbyniadau i ysbytai wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf. O ran achosion o dorasgwrn y glun, mae cydberthynas amlwg rhwng y newidiadau yn ystod y cyfraddau derbyn a’r newidiadau yng nghyflawnder codio dros amser. Oherwydd hyn, nid ydym yn dangos yr ardaloedd lle’r oedd y diagnosisau sylfaenol ar goll mewn 10% neu fwy o’r achosion derbyn (gweler gwybodaeth dechnegol am fanylion).
Cynhyrchir Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd ar ran Llywodraeth Cymru ac fe’i datblygwyd yng nghyd-destun strategaethau a fframweithiau cenedlaethol eraill sy’n ceisio ysbrydoli a llywio camau gweithredu i wella iechyd y genedl. Yn benodol, mae’n sail i’r dangosyddion cenedlaethol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy ddarparu ystod fanylach o fesurau sy’n adlewyrchu’r penderfynyddion ehangach sy’n dylanwadu ar iechyd a llesiant.
https://publichealthwales.shinyapps.io/PHOF_Dashboard_Wel/