Neidio i'r prif gynnwy

Offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd (PHOF) wedi'i ddiweddaru gyda'r data diweddaraf

Cyhoeddwyd: 12 Gorfennaf 2024

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adnewyddu'r dangosyddion yn offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.  

Diben Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd, a gafodd ei gyhoeddi gyntaf ym mis Mawrth 2016, yw helpu i ddeall yr effaith y mae ymddygiadau unigol, gwasanaethau cyhoeddus, rhaglenni a pholisïau yn ei chael ar iechyd a llesiant yng Nghymru. 

Yn yr iteriad hwn rydym wedi diweddaru'r dangosyddion canlynol: disgwyliad oes, y bwlch anghydraddoldeb mewn disgwyliad oes, disgwyliad oes iach (Cymru yn unig ar gyfer 2020-2022), a phlant mewn tlodi. 

  • Roedd disgwyliad oes adeg geni yng Nghymru yn 2020 i 2022 yn is nag yn 2017 i 2019 ar gyfer dynion a menywod. Arweiniodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) at fwy o farwolaethau yn 2020 a 2021, a gwelir effaith hyn yn amcangyfrifon disgwyliad oes ardaloedd rhanbarthol a lleol ar gyfer 2020 i 2022. 
  • Roedd y disgwyliad oes iach yng Nghymru yn 2020 i 2022 yn 61.1 mlynedd ar gyfer dynion a 60.3 mlynedd ar gyfer menywod, sy’n ostyngiad o’i gymharu â chyfnodau blaenorol. Mae'r Swyddfa ar gyfer Gwella Iechyd a Gwahaniaethau wedi cyhoeddi rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n ysgogi disgwyliad oes iach. 
  • Er ei bod yn ymddangos bod canran y plant sy’n byw mewn tlodi cyn costau tai ledled Cymru wedi cynyddu ers 2014/15, dylid bod yn ofalus wrth gymharu tueddiadau dros amser oherwydd effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19). 
  • Yn ystod 2022/23, yn y mwyafrif o awdurdodau lleol ledled Cymru, roedd mwy nag 20 y cant o blant yn byw mewn tlodi cyn costau tai. 

Mae’r diffiniad o’r 'glasoed o bwysau iach' a 'phlant mewn tlodi' wedi newid ac felly nid oes modd eu cymharu â fersiynau blaenorol o’r dangosfwrdd PHOF. Cyfeiriwch at y dangosfwrdd am ragor o fanylion. 

Cynhyrchir Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd ar ran Llywodraeth Cymru ac fe’i datblygwyd yng nghyd-destun strategaethau a fframweithiau cenedlaethol eraill sy’n ceisio ysbrydoli a llywio camau gweithredu i wella iechyd y genedl. Yn benodol, mae’n sail i’r dangosyddion cenedlaethol ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy ddarparu ystod fanylach o fesurau sy’n adlewyrchu’r penderfynyddion ehangach sy’n dylanwadu ar iechyd a llesiant. 

https://iechydcyhoedduscymru.shinyapps.io/PHOF_Dashboard_Cym/