Neidio i'r prif gynnwy

Offer newydd am ddim yn helpu cyflogwyr i gynyddu cynhyrchiant a gwella iechyd y gweithlu

Cyhoeddwyd: 12 Tachwedd 2025

Maen nhw'n dweud bod pethau da yn dod mewn trioedd, a gall cyflogwyr yng Nghymru nawr elwa ar dri chynnyrch cyffrous newydd ac am ddim sydd wedi'u cynllunio i wella iechyd a llesiant yn y gweithle. 

Cyhoeddwyd yr adnoddau newydd yn swyddogol y bore yma yn nigwyddiad lansio gwasanaethau rhad ac am ddim newydd Cymru Iach ar Waith (CIW) yng Nghaerdydd. Mae CIW yn rhaglen genedlaethol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gyflwynir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’n cefnogi cyflogwyr ledled Cymru i greu gweithleoedd iachach a hapusach. 

Mae’r dystiolaeth yn dangos bod cysylltiad cryf rhwng iechyd a llesiant yn y gweithle a llwyddiant sefydliadol. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchiant gwell, cyfraddau cadw staff a recriwtio gwell, ynghyd â llai o absenoldebau oherwydd salwch a llai o drosiant staff.   

Mae gwaith CIW yn canolbwyntio ar amgylcheddau a diwylliannau iach, hyrwyddo ymddygiadau sy'n gwella iechyd, a chefnogi gweithwyr sy’n absennol o’r gwaith oherwydd salwch a chyflyrau cronig. Mae llawer o gyflogwyr mwyaf Cymru, megis Admiral a Dŵr Cymru, yn gweithio gyda CIW i wella a diogelu iechyd eu gweithluoedd a chynyddu eu cynhyrchiant yn gyffredinol. 

Mae cynhyrchion rhad ac am ddim newydd CIW yn cynnwys: 

  • Offeryn Arolwg Cyflogwyr CIW. Mae’n galluogi cyflogwyr i asesu eu dull presennol o ymdrin ag iechyd a llesiant yn y gweithle a chael adborth, awgrymiadau ar gyfer y camau nesaf a chyngor clir i gryfhau eu strategaeth llesiant yn y gweithle. 

  • Cymorth Cynghorydd yn y Gweithle. Mae’n galluogi cyflogwyr i gael mynediad at sesiynau cymorth rhithwir un-i-un gan Gynghorwyr yn y Gweithle CIW er mwyn iddynt gael syniadau, offer a chynlluniau syml y gallant eu rhoi ar waith ar unwaith yn eu gweithleoedd. 

  • Rhaglen Mentora Cymheiriaid. Mae’n helpu cyflogwyr ledled Cymru i gysylltu a rhannu profiadau o'r byd go iawn, gwybodaeth ymarferol a dulliau sydd wedi’u profi o ymdrin ag iechyd a llesiant yn y gweithle. 

Dywedodd Oliver Williams, Arweinydd Ymgynghorol Cymru Iach ar Waith: “Mae Cymru Iach ar Waith wedi ymrwymo i ddarparu camau ymarferol a chyraeddadwy i gyflogwyr yng Nghymru y gallant eu cymryd i wella a diogelu iechyd a llesiant gweithlu Cymru. Bydd y cynhyrchion newydd hyn yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau a fydd eu hangen ar gyflogwyr i wneud hyn, gan hybu iechyd a chynhyrchiant eu busnesau.” 

Dywedodd Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: "Mae cefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl yn y gweithle yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. Gwyddom, pan fydd gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi yn y gwaith, ei fod o fudd i'w llesiant eu hunain ac yn creu sefydliadau iachach a mwy cynhyrchiol ledled Cymru. Mae'r adnoddau newydd hyn gan Cymru Iach ar Waith yn rhoi offer ymarferol a hygyrch i gyflogwyr i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w gweithluoedd.” 

Roedd cyflogwyr o bob cwr o Gymru, megis Admiral, yn bresennol yn y digwyddiad lansio heddiw. Rhannodd Sarah Murphy MS, Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer llesiant yn y gweithle. Siaradodd yr Athro Jim McManus, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd a Llesiant Iechyd Cyhoeddus Cymru, am bwysigrwydd creu gweithleoedd iach a chefnogol. 

Darparodd Paul Billington o Admiral stori llwyddiant [dolen] gydag enghraifft go iawn o offer iechyd yn y gweithle yn gwneud gwahaniaeth yng Nghymru. Siaradodd Emily Van De Venter, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, am ymchwil ddiweddar y Tîm Iechyd Meddwl a Llesiant ar iechyd meddwl pobl rhwng 16 a 24 oed. Dilynwyd hyn gan weithdy a oedd yn canolbwyntio ar ddatrysiadau a syniadau ymarferol ar sut y gall sefydliadau yng Nghymru gefnogi pobl ifanc (16–24 oed) yn well yn y gweithle. 

Gan fod cysylltiadau wedi’u profi rhwng iechyd a llesiant yn y gweithle a llwyddiant sefydliadol (sy’n cynnwys cynhyrchiant gwell, cyfraddau cadw a recriwtio gwell, a llai o absenoldeb oherwydd salwch), mae cynhyrchion newydd rhad ac am ddim CIW yn cynnig rhywfaint o gefnogaeth sydd ei hangen yn fawr ar gyflogwyr yng Nghymru yn y cyfnod economaidd ansicr hwn. 

Daeth Williams i’r casgliad: “Rydym yn annog cyflogwyr ledled Cymru i fanteisio ar yr adnoddau iechyd a llesiant yn y gweithle cyffrous, newydd a rhad ac am ddim hyn. Mae'r Adolygiad diweddar Keep Britain Working yn dangos bod cyflogwyr yn colli, ar gyfartaledd, £120 y dydd o ran elw oherwydd absenoldebau salwch, ond maent mewn sefyllfa unigryw i helpu i atal iechyd gwael. Felly dyma'r amser perffaith i weithredu ac ymgysylltu â Chymru Iach ar Waith ar gyfer eich anghenion llesiant yn y gweithle.” 

Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol ar Offeryn Arolwg Cyflogwyr CIW, Cymorth Cynghorydd yn y Gweithle a’r Rhaglen Mentora Cymheiriaid, ynghyd â'r rhaglen CIW ei hun, ar eu gwefan.